Pan fyddwch chi'n ein cefnogi drwy weithgareddau codi arian

Sut rydym yn casglu eich gwybodaeth

Rydym yn casglu gwybodaeth am roddwyr yn uniongyrchol a thrwy drydydd partïon. Er enghraifft, efallai y byddwch yn darparu gwybodaeth drwy ffurflen ar ein gwefan neu pan fyddwch yn gwneud rhodd drwy drydydd parti fel Enthuse, Just Giving neu blatfformau rhoi ar-lein eraill.

Pa wybodaeth y gallwn ni ei chasglu

  • eich manylion cyswllt a dynodwyr megis enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post a rhif ffôn cyswllt

  • dewisiadau a chaniatadau cyswllt

  • eich diddordebau a'ch rhesymau dros roi

  • manylion am eich rhodd(ion)

  • ar gyfer ymholwyr a chyfranogwyr digwyddiadau, efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth ychwanegol megis dyddiad geni

  • o bryd i'w gilydd, pan fyddwn yn cynnal ymgyrch codi arian ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, rydym yn casglu gwybodaeth am weithgarwch ar ein tudalennau gwe codi arian.

Yr hyn yr ydym yn defnyddio'ch gwybodaeth ar ei gyfer

Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth er mwyn cyflawni'r canlynol:

  • prosesu rhoddion rydym wedi'u derbyn gennych

  • eich hysbysu chi am ein gwaith a’n hymgyrchoedd codi arian 

  • sicrhau cydymffurfiaeth ac atal twyll

  • sicrhau fod y cynnwys rydyn ni'n ei rhannu â chi yn berthnasol ac yn briodol

  • helpu ni i gynnal ymgyrchoedd codi arian yn effeithiol (gweler ein datganiad cwcis am ragor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio’r dechnoleg hon)

Gyda phwy rydyn ni'n rhannu eich gwybodaeth

Mae enghreifftiau o bwy y gallwn rannu eich manylion â nhw yn cynnwys:

  • trefnwyr y digwyddiadau rydych yn eu mynychu cyhyd ag y bod hynny'n gyfiawn ac yn gyfreithlon, er mwyn helpu i sicrhau eich bod yn cymryd rhan yn ddiogel 

  • Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) fel y gallwn ddarparu gwybodaeth treth a Rhodd Cymorth 

  • Swyddfeydd Cyngor ar Bopeth lleol i'w galluogi i gysylltu â chi ynghylch rhoddion rydych wedi gofyn iddynt gael eu trosglwyddo iddynt

Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth y tu allan i’n gwasanaeth oni bai ein bod yn gwneud hynny er mwyn:

  • cynorthwyo gydag ymholiadau’r heddlu 

  • cwrdd â’n rhwymedigaethau cyfreithiol

  • atal twyll 

  • diogelu eich diogelwch chi neu ddiogelwch eraill

Ein sail gyfreithlon ar gyfer defnyddio'ch gwybodaeth
Gweithgaredd Ein sail gyfreithlon ar gyfer casglu data personol Ein sail gyfreithlon ar gyfer casglu data categori arbennig neu euogfarnau troseddol
Gweithgaredd

Cadw mewn cysylltiad â chefnogwyr

Ein sail gyfreithlon ar gyfer casglu data personol

Diddordeb cyfreithlon - os ydych wedi rhoi arian neu wedi dangos diddordeb yng ngwaith Cyngor ar Bopeth, gallwn yn rhesymol dybio y byddech yn hoffi clywed mwy am ein gwaith a’n gweithgareddau codi arian. Bydd gennych yr hawl i ddewis peidio â chlywed gennym ar unrhyw adeg.

Caniatâd - os byddwn yn cyflawni marchnata electronig, byddwn yn gofyn am ganiatâd lle bo angen i gydymffurfio â rheoliadau marchnata.

Ein sail gyfreithlon ar gyfer casglu data categori arbennig neu euogfarnau troseddol

Amherthnasol

Gweithgaredd

Prosesu rhoddion

Ein sail gyfreithlon ar gyfer casglu data personol

Contract - pan fyddwch wedi ymrwymo i gontract rhodd gyda ni. Er enghraifft, os yw eich sefydliad wedi partneru â ni.

Rhwymedigaethau cyfreithiol pan mae rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i brosesu data personol. Er enghraifft, darparu gwybodaeth am drethi a Rhodd Cymorth i CThEF yn y DU.

Ein sail gyfreithlon ar gyfer casglu data categori arbennig neu euogfarnau troseddol

Amherthnasol