Pan fyddwch chi'n gwneud rhodd

Sut rydym yn casglu eich gwybodaeth

Rydym yn casglu gwybodaeth am roddwyr yn uniongyrchol a thrwy drydydd partïon. Er enghraifft, gallwch ddewis cyfrannu'n uniongyrchol trwy ein gwefan neu drwy drydydd parti fel y Sefydliad Cymorth Elusennau, yr Ymddiriedolaeth Elusennau neu blatfform rhoddion ar-lein arall.

Pan fyddwn yn cynnal ymgyrch codi arian ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, rydym yn defnyddio cwci (a elwir hefyd yn picsel) ar nifer fach iawn o dudalennau sy'n gysylltiedig â chodi arian ar ein gwefan i'n helpu i redeg yr ymgyrch yn effeithiol. Darllenwch ein datganiad cwci am fwy o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio'r dechnoleg hon. 

Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu

  • eich manylion cyswllt a'ch dynodwyr fel enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post ac ati

  • data ariannol, fel manylion eich banc neu gerdyn

  • Hoffterau a chaniatadau cyswllt

  • Eich diddordebau a'ch rhesymau dros gyfrannu

  • Manylion am eich rhoddion

Yr hyn yr ydym yn defnyddio'ch gwybodaeth ar ei gyfer

Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth er mwyn cyflawni'r canlynol:

  • Prosesu unrhyw roddion gennych

  • Cadw mewn cysylltiad a gofyn am roddion yn y dyfodol

  • Sicrhau cydymffurfiaeth ac atal twyll

Gyda phwy rydym yn rhannu eich gwybodaeth

Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth y tu allan i'n gwasanaeth oni bai bod yn ofynnol i ni wneud hynny oherwydd y canlynol:

  • er mwyn cynorthwyo gydag ymholiadau'r heddlu 

  • mae rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i wneud hynny

  • er mwyn atal twyll 

  • er mwyn diogelu eich diogelwch chi neu ddiogelwch eraill

Mae hyn yn cynnwys darparu gwybodaeth am dreth a chymorth rhoddion i CThEM.

Gyda'ch caniatâd efallai y byddwn yn rhannu eich manylion gyda swyddfeydd Cyngor ar Bopeth lleol er mwyn galluogi iddynt gysylltu â chi ynglŷn â rhoddion a chodi arian.

Ein sail gyfreithlon ar gyfer defnyddio'ch gwybodaeth
Gweithgaredd Ein sail gyfreithlon ar gyfer casglu data personol Ein sail gyfreithlon ar gyfer casglu data categori arbennig neu euogfarnau troseddol
Gweithgaredd

Gwneud cyswllt ynglŷn â chodi arian a rhoddion

Ein sail gyfreithlon ar gyfer casglu data personol

Buddiannau dilys - mae gennym fuddiant dilys i godi arian ar gyfer y sefydliad, bydd gennych yr hawl i optio allan o unrhyw gyswllt

Caniatâd - lle rydym yn cynnal marchnata electronig, byddwn yn casglu caniatâd lle bo angen i gydymffurfio â rheoliadau marchnata

Ein sail gyfreithlon ar gyfer casglu data categori arbennig neu euogfarnau troseddol

Amherthnasol

Gweithgaredd

Prosesu rhoddion

Ein sail gyfreithlon ar gyfer casglu data personol

Contract - lle rydych chi wedi ymrwymo i gontract rhodd gyda ni

Buddiant cyfreithlon - mae gennym fuddiant dilys i godi arian i'r sefydliad

Rhwymedigaethau cyfreithiol lle mae rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i brosesu data personol. Er enghraifft, darparu gwybodaeth am dreth a chymorth rhoddion i CThEM yn y DU

Ein sail gyfreithlon ar gyfer casglu data categori arbennig neu euogfarnau troseddol