Pan fyddwch chi'n gwneud cais i weithio neu wirfoddoli gyda ni
Mae'r dudalen hon yn berthnasol i bobl sy'n gwneud cais i weithio i'r canlynol:
Gwasanaeth Cenedlaethol Cyngor ar Bopeth - nid yw hyn yn cynnwys Cyngor ar Bopeth lleol
Gwasanaeth Tystion Cyngor ar Bopeth
Os ydych chi'n gwneud cais i weithio neu wirfoddoli mewn Cyngor ar Bopeth lleol, bydd ganddynt eu polisi eu hunain ynghylch sut maen nhw'n casglu, defnyddio a storio eich gwybodaeth. Cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth lleol a gofynnwch am weld eu polisi - neu edrychwch ar eu gwefan.
Sut rydym yn casglu eich gwybodaeth
Rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch chi trwy eich ffurflen gais swydd neu wirfoddolwr. Er mwyn ceisio am swyddi gyda Cyngor ar Bopeth, byddwch yn cwblhau cais am swydd ar ein platfform recriwtio Jobtrain.
Yn dibynnu ar y rôl, efallai y byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth trwy wiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Byddwch yn cael gwybod a fydd angen gwiriad o'r fath ar gyfer y rôl yn ystod y cam ymgeisio.
Pa wybodaeth rydym yn gofyn amdani
Byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol fel enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost, hanes a phrofiad swydd blaenorol, cymwysterau, ac unrhyw anghenion cymorth a allai fod gennych.
Byddwn hefyd yn gofyn am wybodaeth am amrywiaeth fel eich rhyw, ethnigrwydd a chyfeiriadedd rhywiol. Nid oes rhaid i chi roi'r wybodaeth hon i ni.
Os yw'n ofynnol ar gyfer y rôl, efallai y byddwn yn cysylltu â'r DBS am wiriad cofnod troseddol. Unwaith y bydd y gwiriad DBS wedi'i gwblhau a'ch bod wedi derbyn eich tystysgrif, byddem yn disgwyl i chi rannu'r wybodaeth hon gyda ni fel rhan o'r broses wirio cefndir.
Efallai y byddwn hefyd yn gofyn am y canlynol:
geirdaon ar gyfer eich gwaith blaenorol a chyfredol
prawf o'ch hawl i weithio yn y DU, fel pasbort neu fisa dilys yn y DU
eich rhif yswiriant gwladol a P45
eich manylion banc, fel y gallwn eich talu chi
manylion eich benthyciad myfyriwr os ydych yn talu un yn ôl
Yr hyn yr ydym yn defnyddio'ch gwybodaeth ar ei gyfer
Y prif resymau rydyn ni'n gofyn am eich gwybodaeth bersonol yw i gyflawni'r canlynol:
anfon rhybuddion swyddi atoch os ydych chi'n cofrestru ar eu cyfer
gwirio fod gennych y sgiliau cywir ar gyfer rôl pan fyddwch chi'n gwneud cais
trefnu cyfweliad
cysylltu â chi i roi canlyniad eich cais i chi
gwneud gwiriadau pan fyddwn yn gwneud cynnig, er enghraifft cysylltu â'ch geirdaon neu wirio eich hawl i weithio yn y DU
anfon llythyr yn cynnig swydd neu gontract atoch
Byddwn yn trin unrhyw wybodaeth amrywiaeth rydych chi'n ei rhoi i ni yn gwbl gyfrinachol. Byddwn yn dienwi'r wybodaeth hon a dim ond yn ei defnyddio i edrych ar dueddiadau. Mae hyn yn golygu na fyddwn yn edrych ar eich gwybodaeth yn unigol nac yn ei chymharu â phobl eraill ac ni fyddwn yn ei defnyddio fel rhan o'r broses recriwtio.
Rydym yn rhedeg cynllun cyfweld gwarantedig ar gyfer pobl ag anableddau. Bydd y rheolwr llogi a'r tîm recriwtio yn gweld eich cais os gyflwynoch eich cais drwy'r cynllun hwn. Byddant yn trin y wybodaeth hon yn gwbl gyfrinachol ac ni fyddant yn gallu gweld gweddill eich gwybodaeth amrywiaeth. Ni fydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio wrth wneud unrhyw benderfyniadau eraill am eich cais.
Gyda phwy rydym yn rhannu eich gwybodaeth
Os byddwch yn derbyn cynnig i weithio i ni, byddwn yn:
ymofyn eich caniatâd i rannu eich gwybodaeth gyda'ch geirdaon
rhannu eich gwybodaeth gyswllt gyda'n darparwr iechyd galwedigaethol, Health Management
Ni fyddwn fel arfer yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gydag unrhyw un arall mewn ffordd a allai olygu eich bod yn cael eich adnabod. Mewn rhai sefyllfaoedd prin mae'n rhaid i ni rannu eich gwybodaeth, er enghraifft:
rydym yn ymchwilio i fater diogelu
mae'r heddlu yn gofyn am y wybodaeth i'w helpu i ymchwilio i drosedd
mae llys yn gorchymyn i ni rannu'r wybodaeth
Weithiau rydym yn rhannu ystadegau dienw gyda sefydliadau yr ydym yn ymddiried ynddynt fel y gallant ddadansoddi'r wybodaeth.
Gweithgaredd | Ein sail gyfreithlon ar gyfer casglu data personol | Ein sail gyfreithlon ar gyfer casglu data categori arbennig neu euogfarnau troseddol |
---|---|---|
Gweithgaredd
Recriwtio staff |
Ein sail gyfreithlon ar gyfer casglu data personol
Buddiannau dilys - ar gyfer asesu addasrwydd ymgeiswyr Contract - ar gyfer ymrwymo i gontract cyflogaeth Rhwymedigaeth gyfreithiol - ar gyfer cynnal gwiriadau cyfreithiol fel rhan o sgrinio cyflogaeth |
Ein sail gyfreithlon ar gyfer casglu data categori arbennig neu euogfarnau troseddol
Cyflogaeth, nawdd cymdeithasol, a diogelu cymdeithasol - am gydymffurfio â gofynion cyfreithiol fel cyflogwr gan gynnwys gwiriadau DBS |
Gweithgaredd
Recriwtio gwirfoddolwyr |
Ein sail gyfreithlon ar gyfer casglu data personol
Buddiannau dilys - ar gyfer asesu addasrwydd ymgeiswyr Rhwymedigaeth gyfreithiol - ar gyfer cynnal gwiriadau cyfreithiol fel rhan o sgrinio cyflogaeth |
Ein sail gyfreithlon ar gyfer casglu data categori arbennig neu euogfarnau troseddol
Cyflogaeth, nawdd cymdeithasol, a diogelu cymdeithasol - cynnal gwiriadau DBS |