Pan fyddwch chi'n cael cyngor

Mae'r dudalen hon yn ymdrin â sut mae'r rhwydwaith Cyngor ar Bopeth yn defnyddio'ch data i roi cyngor i chi. Mae hyn yn cwmpasu cyngor cyffredinol yn ogystal â gwasanaethau a ariennir a reolir yn genedlaethol. 

Gall gwasanaethau a reolir yn lleol fod â pholisïau preifatrwydd gwahanol ar gyfer gwasanaethau penodol. I gael rhagor o wybodaeth am y rhain, gallwch gysylltu â'r swyddfa leol yn uniongyrchol neu edrych ar eu gwefan.

Sut rydym yn casglu eich gwybodaeth

Pan fyddwn yn darparu cyngor, rydym naill ai'n casglu'r data hwn yn uniongyrchol gennych chi neu'n ei dderbyn trwy atgyfeiriad gan sefydliad partner.

Byddwn yn casglu'r data hwn mewn gwahanol ffyrdd yn dibynnu ar sut rydych chi'n mynd i'r afael â'n gwasanaeth, gan gynnwys:

  • wyneb yn wyneb - er enghraifft trwy drafod eich sefyllfa gyda chynghorydd

  • llenwi ffurflen - gallai hyn fod yn ffurflen ddigidol neu ffurflen bapur

  • dros y ffôn - er enghraifft drwy ffonio Llinell Gyngor neu swyddfa leol yn uniongyrchol

  • e-bost 

  • gwe-sgwrs

Rydym hefyd yn derbyn gwybodaeth gan sefydliadau partner trwy fecanweithiau atgyfeirio. Pan fyddwch chi'n cael eich cyfeirio atom, dylech gael eich hysbysu eich bod yn cael eich atgyfeirio yn ogystal â pha wybodaeth y byddwn yn ei dderbyn gan ein partneriaid atgyfeirio.

Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu

Er mwyn ein cynorthwyo gyda'ch ymholiad, rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch chi a'ch amgylchiadau. Gallwch ddewis pa wybodaeth rydych chi'n ei rhoi i ni, ond gall peidio â darparu gwybodaeth benodol gyfyngu ar y cyngor y gallwn ei roi i chi. Gall hyn gynnwys:

  • eich enw - gallwch ofyn am aros yn ddienw, ond gall hyn gyfyngu ar y cyngor y gallwn ei ddarparu

  • manylion cyswllt, fel eich cyfeiriad, eich rhif ffôn a'ch cyfeiriad e-bost

  • gwybodaeth proffil, fel eich dyddiad geni ac a oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd

Byddwn hefyd yn casglu unrhyw wybodaeth am eich mater a allai ein helpu i roi cyngor i chi a all gynnwys:

  • gwybodaeth am eich cyllid - er enghraifft eich incwm, eich gwariant, eich dyledion, eich budd-daliadau neu eich pensiwn

  • adroddiadau credyd - efallai y byddwn yn cael copïau o'ch hanes credyd gyda'ch caniatâd chi

  • manylion y cynhyrchion neu'r gwasanaethau rydych chi'n cael problemau â nhw

  • manylion eich tai fel eich rhent, morgais ac amodau tai

  • gwybodaeth am eich iechyd neu anabledd

  • manylion unrhyw wahaniaethu rydych chi'n ei wynebu

Os byddwch yn cysylltu â ni dros y ffôn, byddwn hefyd yn recordio'r alwad ffôn at ddibenion hyfforddi a monitro.

Efallai y gofynnir i chi hefyd ddarparu gwybodaeth ddemograffig yn eich sesiwn gynghori. Ni fydd hyn yn effeithio ar y cyngor a dderbyniwch a bydd yn cael ei ddefnyddio i ddeall mwy am ein gwasanaeth. Am ragor o wybodaeth gweler yr adran ar brosesu ystadegol.

Gwybodaeth am unigolion trydydd parti

Efallai y byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth amdanoch chi os nad ydych chi'n un o'n cleientiaid. Byddwn yn gwneud hyn os yw'n berthnasol i roi cyngor i gleient. Er enghraifft, er mwyn cynorthwyo cleient gydag asesiad dyled, bydd angen gwybodaeth ariannol berthnasol am aelodau o'u cartref.

Yr hyn yr ydym yn defnyddio'ch gwybodaeth ar ei gyfer

Rydym yn defnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei roi i ni ar gyfer y canlynol:

  • rhoi cyngor, arweiniad a gwybodaeth i chi

  • cadw mewn cysylltiad â chi am y cyngor rydyn ni'n ei ddarparu

  • help gyda cheisiadau fel gorchymyn adennill dyled neu hawliad budd-daliadau 

  • hyfforddi ein staff a'n gwirfoddolwyr

  • asesu ansawdd ein cyngor

  • ymchwilio i gwynion neu hawliadau

  • cael adborth gennych chi am ein gwasanaethau

  • helpu ni i wella ein gwasanaethau

  • mynd i'r afael ag achosion sylfaenol y broblem sy'n eich wynebu

  • rhannu straeon am eich profiad gyda Cyngor ar Bopeth, gyda'ch caniatâd chi

Efallai y byddwn hefyd yn cofnodi unrhyw ymddygiad annerbyniol gan gleientiaid os ydym o'r farn bod hyn yn achosi tarfu ar ein gwasanaeth neu'n bygwth lles ein staff, gwirfoddolwyr neu unrhyw berson arall.

Mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddwn hefyd yn defnyddio'ch gwybodaeth i gyflawni rhwymedigaethau cyfreithiol, gan gynnwys ar gyfer:

  • diogelu

  • atal twyll

  • cydymffurfiaeth reoleiddiol

Ein polisi cyfrinachedd

Yn Cyngor ar Bopeth mae gennym bolisi cyfrinachedd sy'n nodi na fydd unrhyw beth rydych chi'n ei ddweud wrthym fel rhan o gyngor yn cael ei rannu y tu allan i'r rhwydwaith Cyngor ar Bopeth, oni bai eich bod yn rhoi eich caniatâd i ni wneud hynny.

Mae yna rai eithriadau i hyn fel rhannu:

  • er mwyn atal risg uniongyrchol o niwed i unigolyn

  • mewn amgylchiadau dethol os yw er budd gorau'r cleient

  • os cawn ein gorfodi i wneud hynny yn ôl y gyfraith - er enghraifft yn dilyn gorchymyn llys neu er mwyn cwrdd â datgeliadau statudol

  • os oes budd cyhoeddus goruchaf, megis atal niwed yn erbyn rhywun neu ymchwilio i drosedd

  • er mwyn amddiffyn yn erbyn cwyn neu hawliad cyfreithiol

  • er mwyn diogelu ein henw a'n henw da - er enghraifft i ddarparu ein hochr ni o stori a adroddwyd yn y wasg

Mae yna hefyd rai gwasanaethau a allai fod wedi'u heithrio o'r polisi hwn. Er enghraifft, mae rhai gwasanaethau yr ydym yn eu darparu ar y cyd â sefydliadau partner gan ddefnyddio systemau ar y cyd. Yn yr achos hwn, byddwch bob amser yn cael gwybod hyn wrth geisio cyngor.

Cyd-reolwyr gwasanaethau a ariennir

Yn y Cyngor ar Bopeth cenedlaethol rydym yn rheoli nifer o wasanaethau a ariennir. Sianeli cynghori yw'r rhain pan fyddwn yn darparu gwasanaethau penodol gyda chyllid gan ein partneriaid. Mewn rhai amgylchiadau, rydym yn gyd-gyfrifol am ddylunio'r gwasanaethau hyn ac rydym yn gyd-reolwyr ar gyfer eich gwybodaeth. Ni fydd gan gyllidwyr fynediad uniongyrchol i'ch cofnod achos ond mae'r gwasanaethau wedi'u cynllunio ar y cyd â nhw. Rydym hefyd yn rhannu gwybodaeth wedi'i dad-adnabod gyda nhw i'w helpu i ddeall y gwasanaeth.

  • Y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (Prosiect Cyngor ar Bensiynau a Dyledion)

  • Ymddiriedolaeth Trussell (Prosiect Help trwy Galedi)

Gyda phwy rydyn ni'n rhannu eich gwybodaeth

Yn ogystal â'r categorïau o dderbynwyr isod, efallai y byddwn hefyd yn gofyn i'ch cyfeirio at sefydliad arall a fydd yn gallu darparu mwy o gefnogaeth i chi. Byddwn yn gofyn am eich caniatâd i wneud unrhyw atgyfeiriad o'r fath.

Partneriaid atgyfeirio

Byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda phartneriaid pan fyddwn am eich cyfeirio at wasanaeth arall. Gall hyn fod fel rhan o wasanaeth sy'n cael ei redeg ar y cyd neu lle credwn y gallai sefydliad arall fod mewn sefyllfa well i roi'r cyngor sydd ei angen arnoch i chi. Byddwn ond yn gwneud atgyfeiriad pan fyddwch wedi rhoi eich caniatâd i ni wneud hynny. 

Mae rhai partneriaid atgyfeirio sefydledig yn cynnwys:

  • Yr Uned Cymorth Ychwanegol - sy'n cael ei redeg gan Citizens Advice Scotland sy'n rheoli cwynion gyda chyflenwyr ynni ar ran pobl a allai gael eu hystyried yn agored i niwed neu mewn perygl o ddatgysylltu

  • Ymddiriedolaeth Trussell - i roi taleb banc bwyd i chi

  • Sefydliad banc tanwydd - i roi taleb tanwydd i chi

Cyllidwyr

Rydym yn rhannu gwybodaeth gyda'n cyllidwyr er mwyn dangos ein bod yn bodloni'r gofynion cyllido. Fel arfer, dim ond wedi iddi gael ei dad-adnabod y bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu oni bai eich bod yn rhoi eich caniatâd i ni wneud hynny neu mae angen i ni wneud hynny er mwyn ymchwilio i fater ansawdd, cwyn neu hawliad.

Rheoleiddwyr

Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni ddarparu gwybodaeth i gyrff rheoleiddio mewn rhai amgylchiadau. Mae'r rhain yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Ofgem - y rheoleiddiwr ar gyfer nwy a thrydan

  • Ofcom - y rheoleiddiwr ar gyfer y diwydiant darlledu, telathrebu a phost

  • yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol - y rheoleiddiwr ar gyfer gwasanaethau ariannol a bancio

  • yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd

  • yr Asiantaeth Safonau Bwyd

  • y Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol

  • Safonau Masnach 

Archwilwyr

Rydym yn rhannu gwybodaeth gyda'n archwilwyr mewnol ac allanol i'w galluogi i gynnal archwiliadau i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol a'n safonau arfer gorau yn y ffordd yr ydym yn rhedeg y sefydliad.

Banciau, asiantaethau cyfeirio credyd a chredydwyr

Efallai y byddwn hefyd yn rhannu eich gwybodaeth gyda banciau neu gredydwyr i helpu i gael gwybodaeth fydd yn ein cynorthwyo wrth roi cyngor. Dim ond gyda'ch caniatâd chi y byddwn yn gwneud hyn neu lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny. Bydd gwybodaeth a rannwn yn cael ei defnyddio at sawl diben gan gynnwys y canlynol:

  • cael adroddiad credyd i gynorthwyo gydag ymholiadau ariannol

  • deall mwy am eich incwm a'ch gwariant 

  • deall mwy am y dyledion sy'n ddyledus i chi

Cyflogwyr neu ddarparwyr budd-daliadau

Efallai y byddwn hefyd yn cysylltu â'ch cyflogwr neu'ch darparwr budd-daliadau i ddeall mwy am eich incwm; dim ond gyda'ch caniatâd chi y byddwn yn gwneud hyn.

Gwasanaethau cyfieithu a dehongli

Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda gwasanaeth cyfieithu neu ddehongli i'n galluogi i gyfathrebu â chleientiaid sy'n well ganddynt gyfathrebu mewn iaith wahanol.