Sgwrsiwch â ni ar-lein am ddyled

Gallwch siarad am eich problem ddyled gyda chynghorydd hyfforddedig ar-lein. Byddwn yn ceisio eich helpu i ddatrys eich problem neu wneud cynnydd da tuag at hynny. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen i ni eich anfon at eich Cyngor ar Bopeth lleol neu sefydliad arbenigol.

Mae'r gwasanaeth ar gael fel arfer rhwng 9am ac 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a 9.30am i 1pm ar ddydd Sadwrn. Nid yw ar gael ar wyliau banc.

Bydd botwm ‘sgwrsio â chynghorydd’ yn ymddangos isod pan fydd cynghorydd ar gael.

Os nad yw eich problem yn ymwneud ag arian neu ddyled, gallwch siarad â ni ar ein prif dudalen sgwrsio.

I’ch cysylltu â’r cynghorydd cywir, byddwn yn gofyn i chi am ychydig o fanylion, gan gynnwys eich cod post.

Os nad oes unrhyw un ar gael, byddwn yn ceisio cymryd neges fel y gallwn gysylltu â chi trwy e-bost. Yn anffodus ni allwn wneud hyn bob amser pan fydd yn arbennig o brysur.

Problemau gyda’r gwasanaeth sgwrsio

Efallai y bydd yn cymryd ychydig funudau i’ch cysylltu â chynghorydd. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os nad yw’r math cywir o gynghorydd ar gael.

Os byddwn yn gofyn i chi adael neges, dylai cynghorydd ateb o fewn 4 diwrnod gwaith. Os na chewch ateb, gwiriwch eich ffolder sbam.

Mae rhai meddalwedd 'atalydd hysbysebion' yn atal y rhaglen rhag gweithio. Os ydych chi'n defnyddio atalydd hysbysebion, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ychwanegu citizensadvice.org.uk fel gwefan ddibynadwy - y gellir ymddiried ynddo. 

Cwyno am y gwasanaeth sgwrsio 

Gallwch wneud cwyn os ydych yn anhapus gyda'r gwasanaeth a ddarperir.

Darllen ein polisi preifatrwydd

Darllenwch ein polisi preifatrwydd ar gyfer sut rydym yn defnyddio ac yn storio eich gwybodaeth bersonol.

Darllen ein polisi ymddygiad

Mae gan ein staff yr hawl i wneud eu swydd heb gael eu trin yn wael - deall sut rydym yn delio ag ymddygiad annerbyniol.