Sgwrsio â chynghorydd ar-lein
Os yw eich problem yn ymwneud â gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, siaradwch â ni ar ein tudalen Help i Hawlio.
Ar gyfer materion sy’n ymwneud â dyled, siaradwch â ni ar ein tudalen sgwrsio am ddyled.
Ar gyfer problemau gyda'ch nwy a thrydan, siaradwch â ni ar ein tudalen sgwrs ynni.
Os oes gennych problemau defnyddwyr fel nwyddau wedi torri neu ddiffygiol, siaradwch â'n gwasanaeth defnyddwyr.
Gallwch siarad am eich problem gyda chynghorydd hyfforddedig ar-lein. Byddwn yn ceisio eich helpu i ddatrys eich problem neu wneud cynnydd da tuag at hynny. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen i ni eich anfon at eich Cyngor ar Bopeth lleol neu sefydliad arbenigol.
Fel arfer, mae’r gwasanaeth sgwrsio ar gael o 9am tan 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Nid yw ar gael ar wyliau banc.
Bydd botwm ‘sgwrsio â chynghorydd’ yn ymddangos isod pan fydd cynghorydd ar gael.
Os nad yw'n cynghorwyr ar gael
Efallai y bydd yn rhaid i chi aros am ychydig i gynghorydd fod ar gael.
Mae ein cynghorwyr yn helpu llawer mwy o bobl nag o'r blaen oherwydd yr argyfwng costau byw.
Rydyn ni dal yma i'ch cefnogi chi. Efallai y bydd yn cymryd ychydig yn hirach nag arfer i ni.
Os nad oes unrhyw un ar gael, gallwch:
Defnyddio gwe-sgwrs
I’ch cysylltu â’r cynghorydd cywir, byddwn yn gofyn i chi am ychydig o fanylion, gan gynnwys:
y math o gyngor sydd ei angen arnoch, er enghraifft ‘Budd-daliadau’
eich cod post
Gall gymryd ychydig funudau i'ch cysylltu â'r cynghorydd cywir. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os nad yw’r math cywir o gynghorydd ar gael.
Os nad yw’r cynghorydd cywir oes unrhyw un ar gael, byddwn yn ceisio cymryd neges oddi wrthych fel y gallwn gysylltu â chi trwy e-bost. Yn anffodus ni allwn wneud hyn bob amser pan fydd yn arbennig o brysur.
Preifatrwydd ar-lein
Os ydych chi'n poeni bod rhywun yn gweld yr hyn rydych chi wedi bod yn ei wneud ar-lein, gallwch ddileu hanes eich porwr neu ddefnyddio 'pori preifat' i guddio'ch gweithgarwch. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am orchuddio’ch traciau ar-lein gan Cymorth i Ferched – mae eu cyngor i bawb.
Problemau gyda’r gwasanaeth sgwrsio
Os byddwn yn gofyn i chi adael neges, dylai cynghorydd ateb o fewn 4 diwrnod gwaith. Os na chewch ateb, gwiriwch eich ffolder sbam.
Mae rhai meddalwedd 'atalydd hysbysebion' yn atal y rhaglen rhag gweithio. Os ydych chi'n defnyddio atalydd hysbysebion, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ychwanegu citizensadvice.org.uk fel gwefan ddibynadwy - y gellir ymddiried ynddo.
Cwyno am y gwasanaeth sgwrsio
Gallwch wneud cwyn os ydych yn anhapus gyda'r gwasanaeth a ddarperir.
Darllen ein polisi preifatrwydd
Deall sut rydym yn storio ac yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol pan fyddwch yn cysylltu â ni.
Darllen ein polisi ymddygiad
Mae gan ein staff yr hawl i wneud eu swydd heb gael eu trin yn wael - deall sut rydym yn delio ag ymddygiad annerbyniol.