Beth i ddod gyda chi ar eich ymweliad a Chyngor ar Bopeth lleol
Pan fyddwch chi'n ymweld â'ch Cyngor ar Bopeth lleol, mae'n bwysig bod gan y cynghorydd rydych chi'n siarad ag ef gymaint o wybodaeth â phosib am eich achos.
Os nad oes gennych chi bopeth, peidiwch â phoeni - dewch â chymaint ag y gallwch chi ddod o hyd iddo.
Os na fyddwch chi'n dod â'r gwaith papur angenrheidiol gyda chi efallai y bydd yn rhaid i chi ddod yn ôl rywbryd eto. Mae hyn yn golygu y gallai gymryd mwy o amser i chi gael yr help sydd ei angen arnoch.
Gall fod yn bwysig cael cymorth cyn gynted â phosibl oherwydd efallai mai dim ond ychydig o amser sydd gennych i weithredu.
Problemau gyda budd-daliadau
Dylech ddod â:
pob llythyr gan adrannau’r llywodraeth, fel yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), er enghraifft, Canolfan Byd Gwaith, Gwasanaeth Pensiwn, neu’ch cyngor lleol
unrhyw lythyrau penderfyniad nad ydych chi’n hapus â nhw neu eisiau eu herio - mae hyn yn hanfodol
eich rhif yswiriant gwladol
prawf o'ch incwm - er enghraifft, slipiau cyflog, llythyrau budd-daliadau neu gredydau treth
cyfriflen banc - copi diweddaraf
manylion unrhyw gynilion sydd gennych
eich cytundeb tenantiaeth neu fanylion eich morgais
Gwiriad budd-dal lles
Os hoffech i gynghorydd wirio eich bod yn derbyn yr holl fudd-daliadau a chredydau treth y mae gennych hawl iddynt, dewch â’r wybodaeth ganlynol i bawb sy’n byw yn eich cartref:
dyddiadau geni
os ydych chi'n gyflogedig neu'n hunangyflogedig - nifer yr oriau a weithiwyd
incwm gros o gyflogaeth ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf - Ebrill 6 i Ebrill 5 - bydd ffurflen P60 yn darparu hyn, neu os yn hunangyflogedig, cyfrifon y llynedd
incwm gros ar gyfer eleni - slipiau cyflog neu amcangyfrif os ydych yn hunangyflogedig
os ydych yn derbyn budd-daliadau ar hyn o bryd, dewch â'r holl lythyrau dyfarnu budd-dal
costau gofal plant - manylion y darparwr gofal plant a faint rydych yn ei dalu
incwm buddsoddi - manylion buddsoddiadau a thaliadau llog diweddaraf (efallai mai cyfriflenni banc yw'r ffordd orau o ddangos hyn)
cytundeb tenantiaeth neu fanylion ad-dalu morgais cyfredol
bil treth gyngor
Problemau dyled ac arian
Dylech ddod â:
manylion eich incwm - er enghraifft, slipiau cyflog, llythyrau budd-daliadau neu gredydau treth
cyfriflen banc - copi diweddaraf
manylion pawb y mae arnoch arian iddynt a faint - dewch â'r datganiadau diweddaraf a'r galwadau am daliad
copïau o unrhyw gytundebau benthyciad gwreiddiol
copïau o unrhyw bapurau llys
manylion gwariant eich cartref gan gynnwys faint rydych yn ei wario ar fwyd, cludiant, biliau ffôn ac ynni
copïau o’r ohebiaeth ddiweddaraf yr ydych wedi’i derbyn – er enghraifft, llythyrau gan feilïaid
Problemau Tai
Dylech ddod â:
Copi o’ch cytundeb tenantiaeth ac unrhyw lythyrau gan eich landlord - os ydych yn rhentu
manylion eich morgais - os oes gennych forgais
unrhyw bapurau llys
gweithredoedd eiddo - os ydych yn berchen ar eich cartref
prawf o'ch incwm - er enghraifft, slipiau cyflog, llythyrau budd-daliadau neu gredydau treth
Problemau cyflogaeth
Dylech ddod â:
copi o'ch contract cyflogaeth
manylion unrhyw faterion disgyblu, achwyn neu ddiswyddo
unrhyw lythyrau diweddar gan eich cyflogwr
eich llawlyfr staff, os oes gennych un
copi o geisiadau tribiwnlys cyflogaeth - os ydych wedi gwneud rhai
prawf o'ch incwm - er enghraifft, slipiau cyflog, llythyrau budd-daliadau neu gredydau treth
Materion teuluol a phersonol
Dylech ddod â:
unrhyw waith papur neu lythyrau yn ymwneud â’r mater
unrhyw ddogfennau llys neu gytundebau cyfreithiol
prawf o'ch incwm - er enghraifft, slipiau cyflog, llythyrau budd-daliadau neu gredydau treth
copi o'ch papurau ysgariad
Problemau defnyddwyr
Dylech ddod â:
manylion llawn y nwyddau neu'r gwasanaethau sy'n achosi'r broblem
copïau o unrhyw gontractau neu gytundebau credyd
unrhyw lythyrau diweddar ynglŷn â’r broblem
prawf o bryniant - fel derbynneb neu slip cerdyn credyd
prawf o'ch incwm - er enghraifft, slipiau cyflog, llythyrau budd-daliadau neu gredydau treth
Problemau mewnfudo neu loches
Dylech ddod â:
eich holl lythyrau gan y Swyddfa Gartref
eich pasbort a manylion unrhyw fisas neu drwyddedau
prawf o'ch incwm neu gymorth NASS - er enghraifft, slipiau cyflog, llythyrau budd-daliadau neu gredydau treth
Problemau eraill
Dylech ddod ag unrhyw waith papur, llythyrau neu ohebiaeth arall sy'n ymwneud â'r mater.