Ynglŷn â Gwasanaeth Tystion Cyngor ar Bopeth
Mae rhoi tystiolaeth fel tyst yn gallu bod yn hen brofiad annifyr ac mae proses y llys yn gallu bod yn gymhleth ac yn anodd ei deall. Mae Gwasanaeth Tystion Cyngor ar Bopeth yn cynnig cefnogaeth am ddim ac annibynnol i dystion yr erlyniad ac amddiffyn ym mhob llys troseddol yng Nghymru a Lloegr.
Mae ein gwirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi yn darparu gwybodaeth ymarferol am broses y llys a chefnogaeth emosiynol i helpu tystion i deimlo’n fwy hyderus wrth roi tystiolaeth. Rydym ni’n gallu:
darparu gwybodaeth am broses y llys
dangos ystafell y llys i dystion cyn yr achos
bod yno i siarad yn gyfrinachol
hebrwng a chadw cwmni i dystion wrth iddyn nhw roi eu tystiolaeth
bod ar gael i roi cefnogaeth ar ddiwrnod yr achos; wrth glywed y rheithfarn ac wrth ddedfrydu
helpu i baratoi tystion sydd angen cefnogaeth ychwanegol, gall hyn fod yn eu cartrefi neu mewn man diogel arall
cymorth i hawlio treuliau
gweithio gydag asiantaethau eraill i sicrhau bod y gefnogaeth briodol yn cael ei rhoi
atgyfeirio tystion at ein partneriaid, gan gynnwys Cyngor ar Bopeth lleol ar ôl yr achos er mwyn iddyn nhw dderbyn cymorth gyda materion eraill.