Os ydych yn cysylltu â ni ynglŷn â swyddfa bost - ein polisi preifatrwydd

Cyngor ar Bopeth yw'r corff gwarchod statudol ar gyfer gwasanaethau post. Mae hyn yn golygu bod gennym ddyletswydd gyfreithiol i fonitro gwasanaethau post er mwyn sicrhau bod defnyddwyr yn cael bargen deg.

Rydym yn casglu ac yn prosesu eich gwybodaeth bersonol gan ddefnyddio sail gyfreithlon a elwir yn 'dasg gyhoeddus’. Mae hyn yn golygu bod modd i ni gyflawni tasg sydd er budd y cyhoedd neu sy'n rhan o'n swyddogaethau swyddogol, sydd â sylfaen glir yn y gyfraith.

Os ydych yn cysylltu â ni i fynegi pryderon am un o wasanaethau swyddfa'r bost, byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol gennych drwy e-bost, ffôn neu lythyr - gan ddibynnu ar sut rydych yn cysylltu â ni. Gallai'r wybodaeth hon gynnwys:

  • eich enw a'ch manylion cyswllt

  • ble rydych chi'n byw

  • yr hyn sy'n peri pryder i chi mewn perthynas â'ch swyddfa bost

  • a ydych yn cwyno fel defnyddiwr, neu fel cynrychiolydd lleol ar ran eich etholwyr neu'ch cymuned

Gallwch ddileu'ch caniatâd i ni storio eich gwybodaeth bersonol ar unrhyw adeg - y term cyfreithiol am hyn yw tynnu caniatâd yn ôl. Dywedwch wrthym ba wybodaeth bersonol nad ydych am i ni ei storio a byddwn yn ei dileu.

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Fel y corff gwarchod defnyddwyr ar gyfer gwasanaethau post, rydym yn defnyddio eich gwybodaeth yn bennaf er mwyn:

  • monitro newidiadau i rwydwaith swyddfa'r post

  • cysylltu â swyddfa'r bost i drafod eich cwyn, os yw hynny'n berthnasol

Byddwn ond yn defnyddio eich gwybodaeth am resymau eraill os oes angen gwirioneddol i ni wneud hynny - er enghraifft:

  • at ddibenion hyfforddiant ac ansawdd

  • i gael adborth gennych am ein gwasanaethau neu'r Swyddfa Bost

  • i gynnwys ystadegau cwynion dienw mewn adroddiadau mewnol

Mae'r holl staff sy'n defnyddio data wedi cwblhau hyfforddiant diogelu data er mwyn sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei thrin yn sensitif ac yn ddiogel.

Pan fyddwn yn rhannu eich data

Mae'n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol â Swyddfa'r Post Cyf er mwyn ymdrin â'ch cwyn. Ni fyddwn yn gwneud hyn heb eich caniatâd.

Mae'n rhaid i Swyddfa'r Post Cyf gadw a defnyddio'ch data yn unol â chyfraith diogelu data - nid yw'n gallu ei drosglwyddo na'i werthu heb eich caniatâd.

Os cewch gyngor wyneb yn wyneb (yn bersonol)

Mae’n bosibl y bydd Profi ac Olrhain y GIG neu sefydliadau iechyd cyhoeddus lleol yn gofyn i ni rannu eich enw, manylion cyswllt a dyddiad eich ymweliad. Mae hyn i helpu i olrhain achosion o coronafirws.

Mae gennym ‘fudd cyfreithlon’ i rannu’r wybodaeth hon o dan gyfraith diogelu data – mae’n ein helpu i’ch cadw chi a’r cyhoedd yn ddiogel.

Ni fyddwn yn:

  • rhannu gwybodaeth am y rheswm dros eich ymweliad

  • rhannu eich manylion cyswllt ag unrhyw un heblaw Profi ac Olrhain neu sefydliad iechyd cyhoeddus lleol

Yn wahanol i’r rhan fwyaf o sefyllfaoedd, ni fyddwn yn gofyn am eich caniatâd cyn i ni rannu eich manylion cyswllt. Os nad ydych am i ni rannu'r wybodaeth hon gallwch ddweud wrth eich swyddfa leol eich bod am optio allan. Os nad ydych am roi eich manylion cyswllt o gwbl i ni, byddwn yn dal i allu rhoi cyngor i chi.

Mae’n bosibl y bydd Profi ac Olrhain y GIG yn cysylltu â chi os ymweloch ar yr un pryd â rhywun a brofodd yn bositif am y coronafeirws. Gallwch chi:

Os oes gennych chi ap Profi ac Olrhain y GIG ar eich ffôn gallwch ‘mewngofnodi' i'n rhai o’n swyddfeydd Cyngor ar Bopeth lleol. Gallwch barhau i gael cyngor hyd yn oed os nad ydych yn mewngofnodi ar yr ap. Gallwch chi:

Storio eich gwybodaeth

Byddwn yn storio eich gwybodaeth yn ddiogel yn ein systemau mewnol.

Rydym yn cadw eich data am 6 blynedd. Os yw eich cwyn yn ddifrifol neu os yw'n ymwneud â hawliad yswiriant neu anghydfod arall, byddwn yn cadw'r wybodaeth am 16 mlynedd.

Cysylltu â ni ynglŷn â'ch gwybodaeth

Gallwch gysylltu â ni ar unrhyw adeg i holi am y canlynol:

  • pa wybodaeth amdanoch sy'n cael ei storio gennym

  • os ydych am newid neu ddiweddaru eich manylion

  • os ydych am i ni ddileu eich manylion o'n cofnodion

Anfonwch neges atom: feedback@citizensadvice.org.uk.

Os ydych chi eisiau cwyno

Os nad ydych yn hapus â sut rydym wedi ymdrin â'ch data, gallwch wneud cwyn ar ein gwefan.