Sut rydym yn defnyddio cwcis
Pan fyddwch chi'n defnyddio ein gwefan, rydym yn ychwanegu cwcis at eich dyfais er mwyn:
gwneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n dda i chi – er enghraifft, cofio os ydych chi eisiau gweld cynnwys ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon
darganfod sut rydych chi'n defnyddio ein gwefan fel y gallwn ei gwella
ein helpu i redeg ymgyrchoedd codi arian yn effeithiol
Trwy ddefnyddio ein gwefan, rydym yn cymryd yn ganiataol eich bod yn cytuno i ni ychwanegu cwcis at eich dyfais. Os ydych chi am analluogi, rhwystro neu ddileu cwcis, gallwch wneud hyn unrhyw bryd.
Dileu neu analluogi cwcis
Os byddwch yn dileu pob cwcis ni fyddwch yn gallu:
cofio eich dewisiadau, fel ym mha wlad rydych yn byw
llenwi ffurflenni ar ein gwefan
efallai defnyddio gwe-sgwrs na gweld cynnwys gan gwmnïau eraill fel fideos Youtube neu ffurflenni adborth SurveyMonkey
mewngofnodi - os ydych yn gweithio neu'n gwirfoddoli i Gyngor ar Bopeth
I rwystro cwcis, dylech newid y gosodiadau yn eich porwr gwe. Gallwch hefyd ddileu cwcis sydd eisoes wedi'u gosod. Cliciwch ar 'Help' yn eich porwr gwe a chwiliwch am 'cwcis'.
Mae cwcis o Google Analytics neu Mouseflow yn dweud wrthym sut rydych chi'n defnyddio ein gwefan. Gallwch optio allan os nad ydych am i'r cwcis hyn gael eu hychwanegu at eich dyfais.
Optio allan o gwcis Google Analytics.
Sicrhau bod ein gwefan yn gweithio’n iawn
Rydym yn ychwanegu cwcis at eich dyfais fel bod gennych brofiad da pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan - er enghraifft:
cofio eich dewisiadau
atal yr hysbysiad cwcis rhag dangos drwy'r amser
sicrhau bod ein ffurflenni ar-lein yn gweithio
Enw'r cwcis | Pa mor hir y caiff ei gadw ar eich dyfais |
---|---|
Enw'r cwcis
CABExtent |
Pa mor hir y caiff ei gadw ar eich dyfais
1 mis |
Mae’r cwcis yn cofio ym mha ran o’r DU y mae’n well gennych weld gwybodaeth - Cymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
Mae hyn yn golygu na fydd yn rhaid i chi ddewis lleoliad bob tro y byddwch yn ymweld â'n gwefan.
Enw'r Cwcis | Pa mor hir y caiff ei gadw ar eich dyfais |
---|---|
Enw'r Cwcis
eprivacy |
Pa mor hir y caiff ei gadw ar eich dyfais
1 mis |
Mae'r cwci hwn yn atal y neges naid am gwcis rhag ymddangos ar bob tudalen rydych chi'n ymweld â hi - yn lle hynny, dim ond ar y 3 tudalen gyntaf y mae'n cael ei dangos neu nes i chi ei chau.
Enw'r Cwcis | Beth mae'n cael ei ddefnyddio ar gyfer | Pa mor hir y caiff ei gadw ar eich dyfais |
---|---|---|
Enw'r Cwcis
AWSELB and AWSELBCORES |
Beth mae'n cael ei ddefnyddio ar gyfer
Os ydych chi'n llenwi ffurflen ar ein gwefan, mae'r cwci hwn yn sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei chofio fel ei bod yn gweithio pan fyddwch chi'n ei chyflwyno. |
Pa mor hir y caiff ei gadw ar eich dyfais
5 munud (AWSELB) a hyd nes y byddwch chi'n gadael ein gwefan trwy gau eich porwr (AWSELBCORES) |
Enw'r Cwcis
ASP.NET_SessionId |
Beth mae'n cael ei ddefnyddio ar gyfer
Os byddwch chi'n llenwi ffurflen ar ein gwefan, mae'r cwci hwn yn sicrhau bod y manylion rydych chi'n eu nodi yn aros yn y ffurflen tra byddwch chi'n ei llenwi. |
Pa mor hir y caiff ei gadw ar eich dyfais
Hyd nes i chi adael ein gwefan trwy gau eich porwr |
Enw'r Cwcis
__AntiXsrfToken |
Beth mae'n cael ei ddefnyddio ar gyfer
Mae'r cwci hwn yn sicrhau bod ffurflenni a gyflwynir ar y wefan gan ddefnyddwyr dilys ac nad ydynt yn faleisus. |
Pa mor hir y caiff ei gadw ar eich dyfais
Hyd nes i chi adael ein gwefan trwy gau eich porwr |
Mae'r cwcis hyn yn golygu bod ein ffurflenni ar-lein yn gweithio. Maen nhw'n cael eu rhoi ar eich dyfais p'un a ydych chi'n defnyddio ffurflen ai peidio.
Ymgyrchoedd codi arian
Pan fyddwn yn cynnal ymgyrch codi arian ar Facebook ac Instagram, rydym yn defnyddio cwci (a elwir hefyd yn picsel) ar nifer fach iawn o dudalennau sy'n ymwneud â chodi arian ar ein gwefan. Rydym yn adnabod y tudalennau hyn trwy ychwanegu blwch testun statig sy'n rhybuddio defnyddwyr ein bod yn defnyddio cwci ar y dudalen ac sy'n cynnwys dolen i'n polisi preifatrwydd am ragor o wybodaeth.
Mae’r cwci a ddefnyddiwn yn ein helpu i redeg yr ymgyrch codi arian mor effeithlon ac effeithiol â phosibl drwy ganiatáu inni:
Anfon ein hysbysebion codi arian at y bobl sydd fwyaf tebygol o fod â diddordeb yn ein gwaith
Adeiladu cynulleidfaoedd, er mwyn cyrraedd mwy o bobl sydd â diddordeb yn y gwaith a wnawn
Anfon ein hysbysebion codi arian at bobl sydd wedi ymgysylltu â'n cynnwys o'r blaen
Enw'r Cwcis | Pa mor hir y caiff ei gadw ar eich dyfais |
---|---|
Enw'r Cwcis
_fr |
Pa mor hir y caiff ei gadw ar eich dyfais
180 diwrnod |
Cwcis y mae cwmnïau eraill yn eu hychwanegu at eich dyfais
Os ydych yn defnyddio offer neu wasanaethau ar ein gwefan sy'n cael eu darparu gan sefydliadau eraill, efallai y byddant yn rhoi cwcis ar eich dyfais pan fyddwch yn ei ddefnyddio.
Dyma’r offer a’r gwasanaethau sydd gennym ar ein gwefan gan sefydliadau eraill:
Ffurflenni Google, mapiau a fideos Youtube - darllenwch bolisi preifatrwydd Google
Ffurflenni adborth SurveyMonkey - darllenwch bolisi preifatrwydd SurveyMonkey
Cofrestriadau ar gyfer digwyddiadau EventBrite - darllenwch bolisi preifatrwydd EventBrite
Porthiannau Twitter wedi'u mewnosod - darllenwch bolisi cwcis Twitter
Fideos trwy Vimeo - darllenwch bolisi preifatrwydd Vimeo
Mapiau a chyflwyniadau wedi'u mewnosod gan Esri - darllenwch bolisi preifatrwydd Esri
Perfformiad gwefan gyda New Relic - darllenwch bolisi cwcis New Relic
Enthuse - ein platfform rhoddion cenedlaethol - darllenwch bolisi preifatrwydd Enthuse
Os ydych yn defnyddio Gwe-sgwrs
Pan fyddwch chi'n defnyddio gwe-sgwrs, mae ein darparwr sgwrs LivePerson yn ychwanegu cwcis at eich dyfais i wneud i'r sgwrs weithio'n llyfn.
Ni allwch gael eich adnabod o unrhyw un o'r cwcis ac nid oes unrhyw gwybodaeth bersonol yn cael ei chymryd.
Enw'r Cwcis | Beth mae'n cael ei ddefnyddio ar gyfer | Pa mor hir y caiff ei gadw ar eich dyfais |
---|---|---|
Enw'r Cwcis
LPSessionID / LPSID |
Beth mae'n cael ei ddefnyddio ar gyfer
Mae’r cwci hwn yn cofio beth rydych chi wedi’i wneud ar ein gwefan gan gynnwys sgwrsio ar-lein. |
Pa mor hir y caiff ei gadw ar eich dyfais
Hyd nes y byddwch yn gadael ein gwefan drwy gau eich porwr. |
Enw'r Cwcis
LPVisitorID / LPVID |
Beth mae'n cael ei ddefnyddio ar gyfer
Mae'r cwci hwn yn gadael i'r system eich cofio pan fyddwch chi'n dod yn ôl. |
Pa mor hir y caiff ei gadw ar eich dyfais
2 mylnedd |
Darganfod sut rydych chi'n defnyddio ein gwefan
Rydym yn defnyddio offer o'r enw Google Analytics a Mouseflow i'n helpu i ddeall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Maent yn casglu gwybodaeth trwy roi cwcis ar eich dyfais. Maen nhw'n rhannu'r data hwnnw gyda ni ac rydyn ni'n ei ddefnyddio i wella ein gwefan - er enghraifft, gwneud tudalennau poblogaidd yn haws dod o hyd iddynt.
Mae Google Analytics a Mouseflow yn casglu gwybodaeth am:
pa ddolenni rydych chi'n clicio arnyn nhw
ble byddwch yn symud y llygoden neu'r cyrchwr ar draws y dudalen
faint rydych chi'n sgrolio i fyny ac i lawr ar y dudalen
eich porwr, dyfais a system weithredu
yr iaith rydych chi'n ei defnyddio
cydraniad eich sgrin
faint o amser rydych chi ar ein gwefan
eich ‘ISP’ a'ch Lleoliad ‘ISP’ bras (Dinas, Rhanbarth, Gwlad)
sut wnaethoch chi gyrraedd ein gwefan
Mae'r data sy'n cael ei gasglu drwy gwcis i gyd yn ddienw - ni allwn eich adnabod o'r data.
Rydym yn storio'r wybodaeth am 6 mis ac yna'n ei dileu.
Darllenwch fwy am sut mae Google Analytics yn defnyddio cwcis.
Darllenwch fwy am sut mae Mouseflow yn defnyddio cwcis yn eu polisi preifatrwydd.
Mae’r polisi cwcis hwn ond yn berthnasol i citizensadvice.org.uk a’i is-barthau. Dylai gwefannau rydym a dolen iddynt gael eu polisi cwcis eu hunain.