Eich hawliau diogelu data

Mae gennych hawliau mewn perthynas â'ch data personol sydd yn ein meddiant. Mae eich hawliau yn cynnwys gallu:

  • cyrchu copïau o'ch data

  • gofyn am gywiriadau i ddata anghywir

  • gofyn am ddileu eich data personol

  • gwrthwynebu sut rydym yn defnyddio eich data personol

Nid yw'r hawliau hyn yn absoliwt ac ni allant fod yn berthnasol ym mhob amgylchiad. Am fwy o wybodaeth am eich hawliau, ymwelwch â gwefan yr ICO.

I wneud cais am hawliau diogelu data, e-bostiwch individualrights@citizensadvice.org.uk. Dim ond ymholiadau am eich data personol ddylech chi eu gyrru - ni allwn ymateb os gofynnwch am gyngor cyffredinol.

Os byddwch yn cysylltu â'r sefydliad cenedlaethol ynglŷn â data a gesglir neu a reolir gan swyddfa leol, byddwn yn rhannu eich cais gyda nhw i'w drin.

Codi pryder am sut rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth

Os ydych chi'n poeni ynglŷn â sut mae swyddfa leol wedi defnyddio'ch data personol, gallwch gysylltu â'ch Cyngor ar Bopeth lleol yn uniongyrchol.

Gallwch hefyd gysylltu â ni yn y sefydliad cenedlaethol os ydych chi'n anhapus â'r ffordd yr ydym wedi defnyddio'ch data personol neu os hoffech fynegi pryder am sut mae swyddfa leol wedi ymdrin â'ch data personol. I wneud hynny, anfonwch e-bost atom yn DPO@citizensadvice.org.uk <mailto:DPO@citizensadvice.org.uk>

Sylwch nad ydym yn ymateb i ymholiadau cyffredinol fel ceisiadau am gyngor o'r mewnflwch hwn. I gael cyngor, cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth lleol.

Mae mwy o wybodaeth am sut rydym yn ymdrin â chwynion yn Cyngor ar Bopeth ar ein gwefan.

Cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO)

Gallwch hefyd godi eich pryder gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth sy'n rheoleiddio cyfraith diogelu data yn y DU os ydych chi'n anhapus â'r ffordd yr ydym wedi defnyddio'ch gwybodaeth bersonol. Byddant fel arfer yn disgwyl i chi fod wedi gwneud cwyn i ni yn uniongyrchol yn y lle cyntaf.

  • Ewch i wefan ICO

  • Cyfeiriad: Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire SK9 5AF

  • Rhif llinell gymorth: 0303 123 1113