Cysylltwch â'n gwasanaeth defnyddwyr
Cysylltwch â llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth os oes angen rhagor o help arnoch gyda phroblem defnyddwyr. Er enghraifft, gallant helpu gyda phethau fel nwyddau wedi torri neu ddiffygiol, neu broblemau gydag ynni neu bost.
Gallwch naill ai:
ffonio'r llinell gymorth
sgwrsio â chynghorydd ar-lein
Gall ein cynghorwyr:
rhoi cyngor ymarferol a diduedd i chi ar sut i ddatrys eich problem defnyddiwr
dweud wrthych beth yw'r gyfraith sy'n berthnasol i'ch sefyllfa
trosglwyddo gwybodaeth am gwynion i Safonau Masnach (ni allwch wneud hyn eich hun)
trosglwyddo cwyn i'ch cyflenwr ynni
Fodd bynnag, ni all ein cynghorwyr wneud cwyn ar eich rhan na chymryd camau cyfreithiol ar eich rhan.
Beth fydd ei angen arnoch pan fyddwch yn cysylltu â'r gwasanaeth defnyddwyr
Cyn i chi gysylltu â'r gwasanaeth, dylai fod gennych feiro a phapur yn barod.
Er mwyn helpu’r cynghorydd i roi’r cyngor mwyaf perthnasol i chi, dylech fod yn barod i roi cymaint o’r wybodaeth ganlynol ag y gallwch iddo:
manylion cryno am eich problem, e.e. pryd wnaethoch chi dalu am yr eitem neu’r gwasanaeth, faint wnaethoch chi ei dalu, sut gwnaethoch chi dalu amdano, p’un a wnaethoch chi hynny mewn siop neu ar-lein
enw a chyfeiriad y gwerthwr neu’r masnachwr
yr hyn yr ydych wedi ei wneud hyd yn hyn i geisio datrys y mater
eich rhif cyfeirnod (os ydych eisoes wedi cysylltu â’r gwasanaeth defnyddwyr ynglŷn â’r un broblem)
Peidiwch â phoeni os nad oes gennych yr holl wybodaeth hon. Dim ond yr hyn rydych chi’n ei wybod bydd angen i chi ei ddweud wrth y cynghorydd.
Ffoniwch ein llinell gymorth defnyddwyr
Llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth: 0808 223 1133
Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 ac yna 0808 223 1133
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Mae’r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 5pm. Mae llinellau ar gau ar wyliau banc.
I gysylltu â chynghorydd Cymraeg ffoniwch: 0808 223 1144
Bydd cynghorydd yn ateb eich galwad cyn gynted â phosibl, fel arfer o fewn ychydig funudau. Unwaith y byddwch yn siarad â chynghorydd, dylai eich galwad gymryd 8 i 10 munud ar gyfartaledd.
Mae galwadau o ffonau symudol a llinellau tir am ddim.
Sgwrsiwch gyda ni ar-lein
Gallwch siarad am eich problem defnyddiwr gyda chynghorydd hyfforddedig ar-lein.
Siaradwch â ni am broblem ynni
Dysgwch sut i sgwrsio â ni ar-lein am broblem ynni.
Siaradwch â ni am fath arall o broblem defnyddwyr
Fel arfer gallwn helpu rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Byddwn yn ceisio eich helpu i ddatrys eich problem neu i wneud cynnydd da tuag at hynny.
I’ch cysylltu â’r cynghorydd cywir, byddwn yn gofyn i chi am ychydig o fanylion, gan gynnwys eich cod post.
Ni all ein cynghorwyr sgwrsio helpu gyda phroblemau postio ond gallwch ddefnyddio ffurflen ar-lein yn lle hynny.
Bydd botwm ‘sgwrsio â chynghorydd’ yn ymddangos isod pan fydd cynghorydd ar gael.
Os nad yw'r llinell gymorth a sgwrs ar gael
Gallwch ddefnyddio un o'n ffurflenni ar-lein i ddweud wrthym am fater defnyddiwr. Dim ond ar y penwythnos y mae rhai o'r ffurflenni ar gael.
Mae’n bwysig defnyddio’r ffurflen gywir er mwyn i ni allu cysylltu â chi. Os ydych yn defnyddio ffurflen wahanol, efallai na fyddwn yn gallu eich helpu.
Os oes gennych broblem gyda'ch nwy neu drydan
Gallwch ddefnyddio ein ffurflen ar-lein unrhyw bryd. Defnyddiwch ein ffurflen i ddweud wrthym am fater ynni.
Os oes gennych broblem gyda'ch post
Gallwch ddefnyddio ein ffurflen ar-lein dros y penwythnos, o 5pm ar ddydd Gwener i 9am ar ddydd Llun. Defnyddiwch ein ffurflen i roi gwybod i ni am fater post.
Os oes gennych unrhyw broblem defnyddiwr arall
Gallwch ddefnyddio ein ffurflen ar-lein dros y penwythnos, o 5pm ar ddydd Gwener i 9am ar ddydd Llun. Defnyddiwch ein ffurflen i ddweud wrthym am broblem gyffredinol defnyddwyr.
Beth rydym yn ei wneud gyda'ch gwybodaeth
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth rydych wedi’i rhoi i ni i ateb eich ymholiad. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i gael eich adborth ar ein gwasanaeth.
Byddwn hefyd yn rhannu eich gwybodaeth gyda Safonau Masnach a sefydliadau dibynadwy eraill rydym yn gweithio gyda nhw i helpu eu gwaith diogelu defnyddwyr. Gallent gysylltu â chi gyda rhagor o gyngor, neu i ofyn am ragor o wybodaeth a fydd yn eu helpu gyda’u gwaith.
Dywedwch wrthym pan fyddwch yn cysylltu â’r gwasanaeth defnyddwyr os nad ydych am i’ch gwybodaeth gael ei rhannu.
Dysgwch fwy am sut rydym yn defnyddio, storio a rhannu eich gwybodaeth.
Sut i gwyno
Gallwch wneud cwyn os ydych yn anhapus gyda'r gwasanaeth a ddarperir.
Darllen ein polisi ymddygiad
Mae gan ein staff yr hawl i wneud eu swydd heb gael eu trin yn wael - deall sut rydym yn delio ag ymddygiad annerbyniol.
Gwneud rhodd
Fel elusen, rydym yn dibynnu ar eich cefnogaeth i helpu miliynau o bobl i ddatrys eu problemau bob blwyddyn. Cyfrannwch os gallwch chi i'n helpu ni i barhau â'n gwaith.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give people the information they need.