Cynghorydd Cyffredinol

Gwneud cais cyn 5yh ar 26 Medi 2025.

Crynodeb o'r swydd

Cyflog
£24,702
Lleoliad
Sir Ddinbych
Gweithle
Yn y swyddfa
Cytundeb
Parhaol
Oriau gwaith
37

Sut i wneud cais

Gallwch gysylltu am ragor o wybodaeth a sut i wneud cais.

Am y rôl

Mae Cyngor ar Bopeth yn cynnig cyngor am ddim ar-lein, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb, mewn cyfrinachedd. Trwy gyfrwng ein rhwydwaith genedlaethol o elusennau rydym ni’n rhoi’r wybodaeth a’r hyder sydd ei angen ar bobl i ganfod eu ffordd ymlaen – pwy bynnag ydyn nhw a beth bynnag yw eu problem.

Hoffech chi weithio i sefydliad sy’n gwneud gwahaniaeth, bob diwrnod, i bobl o bob cefndir? Mae’r pobl sy’n troi at Gyngor ar Bopeth angen cymorth i oresgyn rhwystrau yn eu bywyd a medrwch chi fod yn allweddol yn sicrhau’r cymorth a’r gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw yn y modd cyflymaf, rhwyddaf a mwyaf effeithiol.

Manylion amdanom ni

Mae CAB wedi bod yn gweithredu yn Sir Ddinbych ers 1949. Daeth Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych i fodolaeth ym mis Medi 2005, yn dilyn uno’r gwasanaethau a oedd yn bodoli eisoes yng ngogledd a de’r sir.

Rydym ni’n wasanaeth prysur sy’n gweithredu ledled y sir gyda dwy brif swyddfa. Mae’r swyddfeydd yn y Rhyl a Dinbych ac mae ein staff wedi’u lleoli yno. Rydym ni hefyd yn gweithredu gwasanaethau brysbennu cyngor yn y safleoedd hyn ac mewn lleoliadau allgymorth a digwyddiadau ar draws y sir.

Y swydd

Mae hwn yn gyfle cyffrous i’n cynorthwyo ni i fodloni’r galw cynyddol am ein gwasanaethau.

Rydym yn chwilio am Gynghorwr Cyffredinol i’n helpu i ddarparu gwasanaeth cynghori effeithlon ac effeithiol i aelodau’r cyhoedd drwy apwyntiadau wyneb yn wyneb a dros y ffôn, ac i helpu i ddylanwadu ar y llywodraeth a mudiadau eraill drwy roi gwybod iddyn nhw am effaith eu gweithredoedd ar fywydau ein trigolion.

Byddwch yn cael eich hyfforddi i ddefnyddio ein system a’n prosesau, gan sicrhau eich bod yn meddu ar yr holl sgiliau sydd eu hangen arnoch chi i lwyddo a ffynnu yn y swydd hon, gyda’r cyfle i wneud cynnydd yn ein sefydliad.

Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr sy’n cael eu gwahodd i gyfweliad roi cyflwyniad cryno ar ddechrau’r cyfweliad. Rhoir manylion llawn am hyn yn y llythyr gwahoddiad i gyfweliad.

Rydym yn Hyderus o ran Anabledd

Mae Hyderus o ran Anabledd yn gynllun gan y llywodraeth sy'n cefnogi cyflogwyr i wella'r ffordd y maent yn recriwtio, cadw a datblygu pobl anabl.