Cael cymorth gan y Gwasanaeth Tystion
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Gallwch gael cymorth cyfrinachol am ddim gan y Gwasanaeth Tystion os ydych chi'n mynd i'r llys oherwydd eich bod chi:
wedi dioddef trosedd.
yn dyst i drosedd - fe allech fod yn dyst i'r erlyniad neu'r amddiffyniad
cefnogi tyst i drosedd - er enghraifft os mai chi yw eu rhiant neu ofalwr
aelod o’r teulu neu ffrind i rywun a fu farw oherwydd trosedd
Gwiriwch pa gymorth y gallwch ei gael gan y Gwasanaeth Tystion
Gallwch ddewis y cymorth rydych chi ei eisiau gan y Gwasanaeth Tystion.
Gallwch gael cymorth cyn, yn ystod ac ar ôl y gwrandawiad llys. Os oes angen cymorth arnoch chi cyn yr achos, dylech gysylltu â'r Gwasanaeth Tystion cyn gynted â phosib.
Os nad ydych chi wedi cysylltu â'r Gwasanaeth Tystion cyn i chi fynd i'r llys, mae’n dal yn bosibl i chi gael cymorth. Pan fyddwch chi’n cyrraedd y llys, gofynnwch i'r person wrth y dderbynfa os cewch chi siarad â rhywun o'r Gwasanaeth Tystion.
Cael cymorth i ddeall proses y llys
Gallwch gael cymorth i ddeall beth sy'n mynd i ddigwydd cyn, yn ystod ac ar ôl yr achos.
Bydd y Gwasanaeth Tystion yn eich helpu i ddeall eich hawliau fel tyst. Er enghraifft, gallan nhw eich helpu i ddod o hyd i'r ffurflen er mwyn hawlio treuliau ar gyfer teithio yn ôl a blaen i'r llys.
Siarad â rhywun am fynd i'r llys
Gallwch siarad â rhywun o'r Gwasanaeth Tystion am unrhyw bryderon sydd gennych chi. Gallwch siarad â nhw cyn yr achos, naill ai ar y ffôn neu drwy alwad fideo.
Gall rhywun o'r Gwasanaeth Tystion hefyd eich helpu ar ddiwrnod yr achos. Er enghraifft, gallan nhw siarad â chi tra ydych chi’n aros ac efallai y byddan nhw’n gallu eistedd gyda chi yn y llys.
Canfod sut le yw’r llys
Gall y Gwasanaeth Tystion eich helpu i ddarganfod sut le yw’r llys a beth fydd yn digwydd. Er enghraifft, gallwch naill ai:
ymweld â llys gyda rhywun o'r Gwasanaeth Tystion - gallan nhw fynd â chi o gwmpas y lle.
siarad â rhywun o'r Gwasanaeth Tystion ar y ffôn neu drwy alwad fideo - byddan nhw'n dweud wrthych chi am y llys
Cael mynediad at gymorth emosiynol neu ymarferol
Os ydych chi’n cael trafferth, gall y Gwasanaeth Tystion drefnu i chi gael cymorth. Gallan nhw eich helpu i gael:
cymorth emosiynol, fel cwnsela.
cymorth arbenigol ar gyfer y math o drosedd y buoch chi’n destun neu’n dyst iddo- er enghraifft, os ydych chi wedi dioddef camdriniaeth ddomestig
cymorth gan eich Cyngor ar Bopeth lleol - er enghraifft, os ydych chi'n cael problemau gyda phethau fel tai, dyled neu waith
Cysylltu â'r Gwasanaeth Tystion
Gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Tystion ar y ffôn neu drwy e-bost, neu gallwch lenwi ffurflen ar-lein. Fe gewch chi'r un cymorth waeth pa ffordd rydych chi'n cysylltu.
Os ydych chi’n ffonio, cewch gymorth yn syth. Os ydych chi'n e-bostio neu'n llenwi'r ffurflen ar-lein, bydd rhywun yn ateb o fewn 2 ddiwrnod gwaith.
Ffonio
Rhif ffôn: 0300 332 1000
Relay UK - os nad ydych chi'n gallu clywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn yr ydych am ei ddweud: 18001 yna 0300 332 1000.
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Does dim tâl ychwanegol am ei ddefnyddio. Cael gwybodaeth am sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK
Gallwch ffonio'r Gwasanaeth Tystion o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 6pm.
Gall galwadau i'r rhif hwn gostio hyd at 16c y funud o linell dir, neu rhwng 8c a 40c y funud o ffôn symudol. Gall eich cyflenwr ffôn ddweud wrthych faint y byddwch yn ei dalu.
Anfon e-bost
Pan fyddwch yn ysgrifennu eich e-bost, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys sut rydych am i'r Gwasanaeth Tystion gysylltu â chi - er enghraifft, trwy e-bost neu ar y ffôn. Dylech hefyd roi gwybod iddyn nhw faint o'r gloch i gysylltu â chi.
Os ydych am i'r Gwasanaeth Tystion gysylltu â chi ar y ffôn, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys eich rhif ffôn yn eich e-bost.
E-bost: WSreferralhub@citizensadvice.org.uk
Llenwch ffurflen ar-lein
Gallwch lenwi'r ffurflen atgyfeirio ar-lein Gwasanaeth Tystion.
Cysylltwch â ni trwy ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Tystion drwy ddefnyddio cyfieithydd BSL ar wefan SignVideo. Byddwch yn cael eich cysylltu â'r Gwasanaeth Tystion a chyfieithydd BSL - does dim tâl.
Gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Tystion o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 6pm.
Rhoi adborth neu wneud cwyn
Gallwch roi adborth neu wneud cwyn am y gwasanaeth rydych wedi ei dderbyn gan y Gwasanaeth Tystion.
Gwiriwch a allwch chi gael cymorth ychwanegol i roi tystiolaeth
Os oes gennych chi anghenion ychwanegol sy'n golygu y gallech chi gael trafferth pan fyddwch chi'n rhoi tystiolaeth, mae yna ffyrdd y gall y llys eich helpu. Mae'r rhain yn cael eu galw'n 'fesurau arbennig'.
Gallwch wirio a allwch chi gael mesurau arbennig gan y llys.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.