Os ydych chi’n cael gwŷs tyst
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae derbyn gwŷs tyst yn golygu y bydd yn rhaid i chi fod yn y llys ar ddiwrnod yr achos a rhoi tystiolaeth os gofynnir i chi wneud hynny.
Dylech fynd i'r llys os ydych chi'n cael gwŷs – gall yr heddlu eich arestio a mynd â chi i'r llys fel arall.
Gallwch gael gwŷs gan y llys:
os nad ydyn nhw wedi gallu cysylltu â chi gyda rhybudd tyst
os ydynt nhw'n credu na fyddwch chi'n dod ar y diwrnod o bosibl
os ydych chi wedi dweud na fyddwch chi'n mynd i'r llys
os cawsoch chi wybod dyddiad yr achos ond na wnaethoch chi fynd
Os yw'ch cyflogwr wedi dweud na fydden nhw'n rhoi amser i ffwrdd i chi, gallai'r llys roi gwŷs i chi ei dangos i'ch cyflogwr.
Os ydych chi'n poeni am fynd i'r llys, gallwch gael cymorth a chefnogaeth am ddim gan Wasanaeth Tystion Cyngor ar Bopeth. Llenwch y ffurflen gysylltu neu ffoniwch 0300 332 1000 a bydd rhywun yn dod yn ôl atoch chi o fewn 2 ddiwrnod gwaith.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.