Efallai y bydd rhaid i chi fynd i’r llys fel tyst
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Efallai y bydd rhaid i chi fynd i’r llys fel tyst mewn llys troseddol:
os ydych chi wedi dioddef trosedd – os felly byddwch yn dyst i’r erlyniad
os ydych chi wedi bod yn dyst i drosedd – gallech chi fod yn dyst i’r erlyniad neu’r amddiffyniad
os oes rhywun rydych chi’n ei adnabod wedi’i gyhuddo o drosedd – bydd yr amddiffyniad yn gofyn i chi siarad am y math o berson yw ef neu hi
Efallai na fyddwch yn gorfod mynd i’r llys yn y pen draw, ond byddwch chi’n cael clywed beth sy’n digwydd nesaf.
Os ydych chi’n poeni am fynd i’r llys, gallwch gael cymorth a chefnogaeth am ddim gan Wasanaeth Tystion Cyngor ar Bopeth. Llenwch y ffurflen gyswllt neu ffoniwch 0300 332 1000 a bydd rhywun yn cysylltu â chi o fewn 2 ddiwrnod gwaith.
Sut cewch chi’r wybodaeth ddiweddaraf
Os ydych chi’n dyst i’r erlyniad fel arfer byddwch chi’n cael clywed am hynt a helynt yr achos gan yr Uned Gofal Tystion neu’r heddlu. Fel arfer, mae Unedau Gofal Tystion yn cael eu cynnal gan yr heddlu – byddant yn gweithredu fel cyswllt rhyngoch chi a Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Os ydych chi’n dyst i’r amddiffyniad, bydd cyfreithiwr yr amddiffyniad neu rywun o’u tîm yn rhoi gwybod i chi sut mae’r achos yn mynd.
Os mai rhywun heblaw am yr heddlu sydd wedi ymchwilio i’r achos - er enghraifft yr RSPCA, byddan nhw’n rhoi gwybod i chi sut mae pethau’n mynd.
Am beth fyddwch chi’n cael clywed
Bydd y swyddog gofal tystion neu gyfreithiwr yr amddiffyniad yn:
rhoi gwybod i chi sut mae’r achos yn mynd
eich helpu gyda threfniadau ymarferol fel gofal plant a thrafnidiaeth
trefnu cymorth os oes gennych chi unrhyw anghenion arbennig - holwch a allwch chi gael cymorth ychwanegol fel tyst
Byddant hefyd yn rhoi gwybod os oes angen i chi fynd i’r llys – byddwch chi’n cael rhybudd tyst ar y ffôn, e-bost neu mewn llythyr.
Os ydych chi’n cael rhybudd tyst
Mae cael rhybudd tyst yn golygu bod yn rhaid i chi fynd i’r llys ar ddiwrnod yr achos, a rhoi tystiolaeth os gofynnir i chi wneud hynny.
Hyd yn oed os ydych chi’n cael rhybudd, efallai na fydd yn rhaid i chi roi tystiolaeth ar y diwrnod. Er enghraifft, os yw’r diffynnydd yn pledio’n euog.
Mae’n syniad da bryd hynny i ddweud wrth eich cyflogwr y byddwch angen amser i ffwrdd os yw’r achos yn mynd i’r llys. Rhowch wybod iddyn nhw na fyddwch yn gallu rhoi fawr ddim rhybudd iddyn nhw o bosibl.
Beth sy’n digwydd nesaf
Efallai y cewch chi ddyddiad penodol ar gyfer yr achos neu ffenestr o bythefnos pan fydd yr achos yn debyg o gael ei gynnal. Efallai na fyddwch chi’n cael gwybod yr union ddiwrnod tan y diwrnod cynt.
Pan oeddech chi’n rhoi’ch datganiad, dylai’r heddlu neu gyfreithiwr yr amddiffyniad fod wedi gofyn i chi a oedd unrhyw ddyddiadau nad oeddech chi’n gallu mynd i’r llys. Os na wnaetho nhw hynny, rhowch wybod iddyn nhw cyn gynted â phosibl.
Dylech baratoi ar gyfer newid posibl yn y cynlluniau - gallai’r llys ganslo, gohirio neu symud yr achos i lys gwahanol. Bydd hyn yn digwydd ar y funud olaf o bryd i’w gilydd.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.