Rhannu’ch arian ac eiddo wrth wahanu
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Y ddau benderfyniad ariannol mwyaf rydych chi’n debygol o’u gwneud wrth wahanu yw beth i’w wneud gyda’ch cartref a sut i rannu unrhyw bensiynau – os oes gennych chi rai.
Ceisiwch roi amser i chi’ch hun cyn gwneud penderfyniad. Mae’n llawer haws cytuno os ydych chi a’ch cynbartner yn barod i siarad.
Does dim rhaid i chi gael barnwr i benderfynu drosoch chi. Gallwch gytuno rhwng eich gilydd, ond mae’n syniad da fel arfer i siarad â chyfreithiwr ar ôl i chi benderfynu beth rydych chi am ei wneud.
Mae’n bwysig eich bod yn onest am eich sefyllfa ariannol. Os nad ydych chi’n onest a bod eich cynbartner yn dod i wybod yn ddiweddarach eich bod wedi ceisio celu rhywbeth, yna gallent fynd i’r llys a gofyn am fwy o arian gennych chi.
Os mai’ch cynbartner oedd yn arfer delio â’r arian
Os ydych chi’n gallu, ewch drwy’ch sefyllfa ariannol gyda’ch gilydd. Os nad yw hyn yn bosibl neu os ydych chi’n nerfus am roi trefn ar eich arian gyda’ch cynbartner, gofynnwch i’ch cynbartner a fyddai’n fodlon mynd i sesiwn gyfryngu gyda chi.
Mae cyfryngu’n ffordd gost-effeithiol o geisio datrys anghytuno ynglŷn ag arian ac eiddo. Bydd y naill ochr a’r llall yn gorfod llenwi ffurflen datgelu ariannol pan fyddwch chi’n mynd i sesiwn gyfryngu. Mae hyn yn dangos faint o arian sydd gennych chi’n mynd allan ac yn dod i mewn ac mae’n fan cychwyn da ar gyfer trafod.
Rhagor o wybodaeth am gyfryngu.
Os yw’ch partner yn gwneud i chi deimlo’n bryderus neu dan fygythiad, dylech ofyn am gymorth.
Gallwch ffonio Refuge neu Cymorth i Ferched ar 0808 2000 247 ar unrhyw adeg.
Elusen yw’r Men’s Advice Line sy’n helpu dynion sy’n dioddef cam-drin domestig. Gallwch ffonio eu llinell gymorth ar 0808 801 0327 rhwng 9am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener.
Os nad ydych chi’n siŵr beth i’w wneud nesaf, cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf.
Cytuno beth i’w wneud â’ch cartref
Mae beth ddylech chi ei wneud gyda’ch cartref yn dibynnu ar beth allwch chi ei fforddio pan fyddwch chi’n byw ar wahân, faint o werth ‘ecwiti’ sydd i’ch cartref ac a oes gennych chi unrhyw blant.
Efallai y gall eich cyn-bartner ddal ati i dalu’r morgais ar eich cartref, neu o leiaf dalu rhywbeth tuag at yr ad-daliadau, ar ôl symud allan.
Fodd bynnag, bydd angen i chi ddod i gytundeb mwy parhaol os yw am gael dechrau newydd yn y pen draw – efallai er mwyn gallu rhentu neu brynu ei gartref ei hun.
Efallai y byddwch chi’n gallu cael cymorth gyda’ch costau byw os ydych chi’n gwahanu oddi wrth eich partner. Gallai hyn wneud y gwahaniaeth rhwng gallu aros yn y cartref a gorfod symud allan.
Darllenwch am fudd-daliadau a chymorth gyda threth gyngor.
Efallai y gallwch chi gael cymorth ariannol (a elwir hefyd yn ‘cynhaliaeth priod’) os oeddech chi’n briod neu mewn partneriaeth sifil.
Os ydych chi eisiau aros yn y cartref a phrynu cyfran eich cyn-bartner
Efallai y gallwch chi brynu cyfran eich cyn-bartner fel eich bod yn berchen ar y cartref eich hun. Fodd bynnag, hyd yn oed os ydych chi’n gallu dod i gytundeb rhwng eich gilydd am hyn, bydd y cwmni morgais am gael gwybod eich bod yn gallu fforddio’r taliadau morgais ar eich pen eich hun.
Gall hyn fod yn anodd iawn os nad ydych chi’n gweithio, neu os ydych chi ond yn gweithio’n rhan-amser oherwydd eich bod yn gofalu am y plant.
Os nad ydych chi’n gallu fforddio’r taliadau morgais, gofynnwch i’r cwmni morgais a allwch chi newid eich morgais i forgais llog yn unig. Dylai hyn ostwng eich taliadau misol.
Gallech geisio cael morgais gwarantwr – dyma ble mae ffrind neu berthynas yn rhoi sicrwydd y byddant yn talu eich morgais os nad ydych chi’n gallu talu. Siaradwch â chynghorydd morgais neu ariannol os nad yw’ch cwmni morgais yn rhoi’r opsiwn hwn i chi. Efallai y byddant yn gallu argymell pethau eraill i chi roi cynnig arnynt.
Os nad oes unrhyw ffordd y gallwch brynu cyfran eich cyn-bartner, ceisiwch ddod i gytundeb arall. Efallai y gallent adael i chi gadw eu cyfran o’r tŷ yn gyfnewid am beidio â thalu cynhaliaeth plentyn, er enghraifft.
Gallai fod yn anodd trefnu hyn felly ceisiwch gael cyngor gan gyfreithiwr gyntaf.
Os ydych chi am werthu’ch cartref
Trafodwch hyn gyda’ch cyn-bartner. Gallai wneud mwy o synnwyr i un ohonoch chi aros yn y cartref os nad yw’n werth llawer. Gwerth yw faint o arian sydd ar ôl o’r gwerthiant ar ôl i chi dalu’ch morgais.
Os ydych chi’n gwerthu’ch cartref am £250,000 a bod gennych chi forgais o £200,000 arno, mae’r gwerth yn £50,000. Mae’n debyg y byddwch chi’n gorfod talu ffioedd eraill allan o’r £50,000, fel ffioedd cyfreithwyr a gwerthwr eiddo, felly gallech chi dderbyn llai yn y pen draw.
Siaradwch â gwerthwr eiddo os ydych chi am gael syniad o werth eich cartref. Mae’n syniad da cael 3 gwahanol brisiad er mwyn i chi gael prisiau gwerthu amrywiol i ddewis rhyngddynt.
Unwaith y byddwch chi’n gwybod y gwerth, ceisiwch ddod i gytundeb gyda’ch cyn-bartner ynglŷn â’r hyn rydych chi am ei wneud. Yna siaradwch â chyfreithiwr.
Mae’n gymhleth penderfynu sut i rannu’r gwerth rhyngoch chi ac mae’n dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys:
faint rydych chi’ch dau yn ei ennill
a oes gennych chi unrhyw arian neu eiddo arall
eich anghenion a’ch cyfrifoldebau, er enghraifft a oes gennych chi blant
ers faint rydych chi wedi bod yn briod neu wedi bod mewn partneriaeth sifil
faint rydych chi’ch dau wedi ei gyfrannu at y berthynas - yn ariannol ac yn emosiynol
Bydd cyfreithiwr yn gallu dweud wrthych chi a yw hi’n werth gwerthu eich cartref.
Rhannu eich pensiwn
Os ydych chi’n briod neu mewn partneriaeth sifil, fel arfer bydd gennych chi hawl i gyfran o bensiwn eich cyn-bartner pan fyddwch chi’n ysgaru neu’n rhoi diwedd ar eich partneriaeth sifil.
Dylech geisio dod i gytundeb rhwng eich gilydd ynglŷn â beth rydych chi am ei wneud gyda phensiwn, ond mae’n syniad da siarad â chynghorydd ariannol.
Gallai cyfreithiwr eich helpu, ond yn aml byddent yn argymell eich bod yn siarad â chynghorydd ariannol i ddechrau.
Gall sut mae rhannu pensiwn ddibynnu ar faint yw gwerth y pensiwn. Y ffordd fwyaf cyffredin o rannu pensiwn yw symud rhywfaint o bensiwn eich cyn-bartner i gynllun eich hun. Gelwir hyn yn ‘rhannu pensiwn’.
Gellir ond rhannu pensiwn pan fo barnwr yn rhoi ‘gorchymyn rhannu pensiwn’ mewn ysgariad neu wrth ddiddymu partneriaeth sifil.
Darllenwch fwy am beth sy'n digwydd i bensiynau pan fyddwch chi'n gwahanu ar wefan Pensionwise GOV.UK.
Ceisiwch gytuno cymaint ag y gallwch gyda’ch cyn-bartner cyn i chi fynd at gyfreithiwr. Bydd hyn yn eich helpu i gadw costau cyfreithiol i lawr.
Gall rhai cyfreithwyr gynnig 30 munud o gyngor cyfreithiol am ddim. Defnyddiwch yr amser hwn i gasglu cymaint o wybodaeth ag y gallwch. Mae’n annhebyg y byddwch yn cael cyngor manwl, ond dylech gael syniad o ba mor gymhleth yw’ch achos a thua faint y bydd yn ei gostio.
Gallech ofyn i’ch cyfreithiwr a fyddai’n gwneud y gwaith am ffi benodol fel eich bod yn gwybod o’r dechrau faint fydd eich costau cyfreithiol. Does dim rhaid iddynt gytuno ar hyn.
Rhannu gweddill eich arian
I rannu popeth arall, gwnewch restr o’r pethau rydych chi a’ch cyn-bartner yn berchen arnynt, gan gynnwys:
eiddo personol, er enghraifft dodrefn a gemwaith
anifeiliaid anwes
arian mewn cyfrifon banc (cyfrifon ar y cyd yn ogystal â’ch cyfrifon eich hun)
cynilion a buddsoddiadau
Does dim rhaid i chi restru eich holl eiddo. Gallai fod yn gynt cynnwys pethau dros werth penodol, neu’r pethau rydych chi wir am eu cadw.
Bydd angen i chi gynnwys unrhyw ddyledion sydd gennych chi gyda’ch cyn-bartner, fel gorddrafft banc neu gytundeb hurbwrcasu.
Os ydych chi’n rhannu’ch dyled, byddwch eich dau yn gyfrifol am y swm cyfan - nid eich hanner chi yn unig. Mae hyn yn golygu os bydd eich cyn-bartner yn rhoi’r gorau i dalu’r ddyled ar ôl i chi wahanu, bydd yn rhaid i chi setlo’r ddyled eich hun.
Hyd yn oed os ydych chi â’ch cyn-bartner yn siarad â’ch gilydd, mae’n syniad da gofalu bod gennych chi gynllun ar gyfer talu eich cyfran o’r dyledion. Os ydych chi’n poeni y bydd eich cyn-bartner yn gwrthod neu’n methu talu, siaradwch â chyfreithiwr.
Gallwch barhau i ddefnyddio cyfrif ar y cyd gyda’ch cyn-bartner ar ôl i chi wahanu, er enghraifft os ydych chi’n rhannu costau gofal plant.
Fodd bynnag, mae’n syniad gwell cau’r cyfrif ac agor rhai ar wahân er mwyn atal unrhyw anghytuno am arian.
Os ydych chi’n meddwl bod eich cyn-bartner ar fin tynnu arian allan o gyfrif ar y cyd, gallwch gysylltu â’ch banc a gofyn iddynt rewi’r cyfrif. Bydd hyn yn atal unrhyw un rhag tynnu arian allan - gan eich cynnwys chi.
Os ydych chi’n poeni y byddai gwneud hyn yn gofidio’ch cyn-bartner, dylech siarad â chynghorydd yn eich Cyngor ar Bopeth agosaf yn y lle cyntaf.
Penderfynu pwy sy’n berchen ar bethau
Does dim ffordd hawdd o benderfynu pwy sy’n berchen ar rywbeth o berthynas. Bydd angen i chi eistedd i lawr gyda’ch cyn-bartner a mynd trwy bethau fesul un.
Ceisiwch gytuno cymaint ag y gallwch chi. Os oes rhaid i chi fynd i’r llys i benderfynu pwy sy’n cael beth, gallech orfod gwario mwy ar ffioedd cyfreithwyr na gwerth yr eitem.
Gall ysgrifennu ar eich rhestr faint yw gwerth pob eitem yn eich barn chi fod o help. O wneud hynny, os yw un ohonoch chi am gadw eitem ddrytach, gallai’r person arall gymryd nifer o eitemau llai o’r un gwerth.
Penderfyniadau am ddodrefn a nwyddau gwynion
Os ydych chi’n ceisio rhoi gwerth ar bethau fel dodrefn neu nwyddau gwynion, mae’n syniad da amcangyfrif eu gwerth newydd - yn hytrach nag am faint y gallech chi eu gwerthu nawr.
Efallai y bydd soffa 10 oed roeddech chi’n ei rhannu gyda’ch cyn-bartner ond yn werth £100, ond byddai cost prynu un arall os ydych chi’n symud i gartref newydd yn llawer uwch.
Beth i’w wneud nesaf
Os ydych chi’n cytuno â’ch cyn-bartner
Does dim rhaid i chi ysgrifennu cytundeb cymhleth. Os ydych chi’n gallu cytuno ar y prif bwyntiau wrth wahanu, nodwch nhw ar bapur i weld beth rydych chi wedi’i benderfynu.
Does dim rhaid i chi wneud unrhyw beth arall, ond mae’n syniad da fel arfer i fynd â’ch cytundeb at gyfreithiwr.
Os ydych chi eisoes wedi dechrau ysgaru neu ddod â’ch perthynas sifil i ben
Gofynnwch i’ch cyfreithiwr am ‘orchymyn cydsynio’. Math o gontract yw hwn y gall barnwr ei wneud yn rhwymol gyfreithiol.
Unwaith y bydd y cytundeb yn rhwymol gyfreithiol, bydd eich trefniadau yn derfynol a byddwch yn gallu mynd â’ch cyn-bartner i’r llys os nad yw’n cadw at rywbeth y cytunwyd arno.
Os nad ydych chi wedi dechrau ysgaru neu ddod â’ch perthynas sifil i ben
Dylech fynd at gyfreithiwr hyd yn oed os nad ydych chi wedi dechrau ysgaru neu ddod â’ch partneriaeth sifil i ben.
Byddant yn gallu drafftio rhywbeth o’r enw ‘cytundeb gwahanu’. Dydy hwn ddim yn rhwymol gyfreithiol, ond fel arfer gallwch ei ddefnyddio mewn llys os nad yw eich amgylchiadau ariannol chi – neu’ch partner – wedi newid.
Gallwch chwilio am gyfreithiwr ar wefan Cymdeithas y Cyfreithwyr.
Os nad ydych chi’n gallu cytuno â’ch cyn-bartner
Os ydych chi wedi rhoi cynnig ar gyflafareddu ac nad ydych chi’n gallu cytuno o hyd ar beth fydd yn digwydd i’ch arian ar ôl i chi wahanu, bydd angen i chi wneud cais i’r llysoedd am orchymyn ariannol. Mae hyn yn gofyn i farnwr benderfynu sut y dylid rhannu pethau.
Gallwch wneud cais am orchymyn ariannol unrhyw bryd ar ôl i chi gyflwyno deiseb i ddod â’ch priodas neu bartneriaeth sifil i ben, ond mae’n syniad gwneud hynny cyn i chi dderbyn eich archddyfarniad absoliwt neu orchymyn terfynol. Po hiraf y byddwch yn aros i wneud cais ar ôl gwahanu, lleia’n byd y gall y barnwr ei ddyfarnu i chi.
Bydd angen i chi ddangos i’r llys eich bod wedi rhoi cynnig ar gyflafareddu cyn i’r llys allu rhoi gorchymyn.
Gallwch ddarllen mwy am wneud cais am orchymyn ariannol ar GOV.UK.
Os ydych chi’n poeni am gostau cyfreithiol
Efallai y gallwch chi gael cymorth cyfreithiol i dalu am gyflafareddu pan fyddwch chi’n gwahanu – hyd yn oed os ydych chi ar fudd-daliadau.
Fel arfer, gallwch ond cael cymorth cyfreithiol os ydych chi neu’ch plant wedi dioddef cam-drin domestig. Mae cam-drin domestig yn cynnwys ymddygiad gormesol, fel eich atal rhan tynnu eich arian eich hun allan o’r banc.
Edrychwch a ydych chi'n gymwys am gymorth cyfreithiol ar GOV.UK.
Efallai y bydd ffyrdd eraill y gallwch chi dalu llai am eich cymorth cyfreithiol. Darllenwch mwy am gymorth gyda ffioedd cyfreithiol wrth wahanu.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 30 Medi 2019