Cymorth gyda ffioedd cyfreithiol pan fyddwch chi’n gwahanu
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Gall gwahanu fod yn gymhleth, felly efallai y byddwch angen cymorth cyfreithiol. Er enghraifft, os na allwch chi a’ch cynbartner gytuno ar bwy fydd yn aros yng nghartref y teulu, neu ble fydd y plant yn byw.
Efallai y byddwch yn gallu cael cymorth gyda chostau cyfreithiol yn dibynnu ar eich incwm, os oes gennych chi unrhyw arbedion neu fuddsoddiadau ac yn ôl pa mor ddifrifol yw’ch achos.
Os yw’ch partner yn gwneud i chi deimlo’n bryderus neu dan fygythiad, dylech ofyn am gymorth.
Gallwch ffonio Refuge neu Cymorth i Ferched ar 0808 2000 247 ar unrhyw adeg.
Elusen yw’r Men’s Advice Line sy’n helpu dynion sy’n dioddef cam-drin domestig. Gallwch ffonio eu llinell gymorth ar 0808 801 0327 rhwng 9am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener.
Os nad ydych chi’n siŵr beth i’w wneud nesaf, cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf.
Holwch a allwch chi gael cymorth cyfreithiol
Efallai y byddwch chi’n gallu cael y llywodraeth i dalu am eich costau cyfreithiol neu ran ohonynt. Gelwir hyn yn ‘gymorth cyfreithiol’ a dylech ei dderbyn os:
ydych chi’n ei ddefnyddio i dalu am wasanaeth cyfryngu
ydych chi wedi dioddef cam-drin domestig yn y 5 mlynedd diwethaf
oes gennych chi brofiad o ddigartrefedd - er enghraifft, os yw’ch cyn-bartner yn ceisio eich taflu allan o’ch cartref
Gwneud cais am gymorth cyfreithiol
I gael cymorth cyfreithiol, bydd eich cynghorydd ariannol neu gyfryngwr teulu angen contract cymorth cyfreithiol.
Dewch o hyd i gyfreithiwr neu gyfryngwr gyda chontract cymorth cyfreithiol ar GOV.UK.
Bydd eich cynghorydd ariannol neu gyfryngwr teulu yn holi a allwch chi gael cymorth cyfreithiol ac yn gwneud cais ar eich rhan. Os ydych chi’n gymwys, bydd y cymorth cyfreithiol yn cael ei dalu yn uniongyrchol iddynt.
Bydd angen i chi dalu rhywfaint o gymorth cyfreithiol yn ôl os ydych chi’n cadw neu’n ennill unrhyw arian neu eiddo ar ddiwedd eich achos llys. Efallai y bydd gofyn i chi wneud hyn drwy gyfandaliad, neu randaliadau o £25 neu fwy.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, siaradwch â’ch cynghorydd cyfreithiol neu gyfryngwr teulu. Gallwch gael cymorth hefyd gan eich Cyngor ar Bopeth agosaf.
Mynd i’r llys yn gyflym os ydych chi neu’ch plant mewn perygl
Os ydych chi angen mynd i’r llys yn gyflym i’ch cadw chi neu’ch plant yn ddiogel oddi wrth eich cyn-bartner, gallwch ofyn i’ch cyfreithiwr wneud cais am ‘gynrychiolaeth gyfreithiol frys’. Mae’n talu eich ffioedd cyfreithiwr a llys os ydych chi angen penderfyniad cyflym ar arian, eiddo neu blant.
Os ydych chi’n cael cynrychiolaeth gyfreithiol frys, dylech hefyd ofyn i’ch cyfreithiwr wneud cais am gymorth cyfreithiol am unrhyw gostau yn y dyfodol neu wrandawiadau llys.
Os na allwch chi gael cymorth cyfreithiol
Efallai y gallwch chi gael cymorth arall i dalu am gyngor ariannol neu gynrychiolaeth llys, gan gynnwys:
cyngor am ddim neu rad gan gyfreithiwr neu weithiwr achos mewn canolfan y gyfraith
hyd at hanner awr am ddim gan gyfreithiwr
cyngor am ddim (a elwir yn gyngor ‘pro bono’) gan gyfreithiwr, er bod hyn yn brin mewn achosion gwahanu
cyngor am ddim (a elwir yn gyngor ‘pro bono’) gan fargyfreithiwr gwirfoddol - mae rhagor o wybodaeth ar wefan Bar Pro Bono Unit
Talu llai am gyfreithiwr
Efallai y gallwch gael cyngor cyfreithiol am ddim neu’n rhad gan gyfreithiwr neu gynghorydd cyfreithiol mewn canolfan y gyfraith.
Dewch o hyd i'ch canolfan y gyfraith leol ar Rwydwaith Canolfannau’r Gyfraith.
Efallai na fydd canolfan y gyfraith leol sy’n ymdrin â materion teuluol, ond mae’n werth holi.
Os na allwch chi ddefnyddio canolfan y gyfraith, chwiliwch i weld a oes unrhyw gyfreithwyr o fewn hanner awr i chi yn cynnig cyngor am ddim. Gall Cymdeithas y Cyfreithwyr eich helpu i ddod o hyd i gyfreithiwr lleol.
Mae rhai cyfreithwyr yn cynnig mwy na hanner awr o gyngor am ddim, er bod hyn yn eithaf prin mewn achosion gwahanu. Gofynnwch i'ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf a ydynt yn gwybod am gyfreithwyr lleol sy’n cynnig cyngor am ddim.
Dylech ymchwilio i wahanol gyfreithwyr cyn penderfynu pa un i ddewis. Gofynnwch iddynt faint maen nhw’n ei godi a faint maen nhw’n meddwl y bydd y broses yn ei gymryd.
Peidiwch â dewis y rhataf neu’r agosaf yn awtomatig. Mae’n bwysig eich bod yn teimlo y bydd gennych chi berthynas dda â nhw.
Talu llai am fargyfreithiwr
Os yw’r gwahanu yn gymhleth neu eich bod angen cyngor arbenigol, gallai cyfreithiwr drosglwyddo’ch achos at fargyfreithiwr.
Mae bargyfreithiwr yn fath o gyfreithiwr felly gallai fod yn rhatach i chi fynd yn syth at fargyfreithiwr eich hun os ydych chi’n meddwl y bydd angen cyngor arbenigol yn eich achos chi. Gallwch fynd yn syth at fargyfreithiwr drwy’r cynllun mynediad cyhoeddus.
Os oes angen i chi fynd i’r llys, gallwch wneud cais i gael eich cynrychioli gan fargyfreithiwr gwirfoddol. Bydd angen i chi gael eich cyfeirio at un drwy:
siarad â’ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf
gofyn i ganolfan y gyfraith
mynd i ganolfan cyngor cyfreithiol
I gael cymorth gan fargyfreithiwr gwirfoddol bydd angen i chi ddangos:
nad ydych chi’n gallu fforddio bargyfreithiwr - does dim ffi benodol, ond fel arfer byddant yn costio o leiaf £150 yr awr
nad ydych chi’n gallu cael cymorth cyfreithiol
Bydd angen i chi wneud cais o leiaf 3 wythnos cyn eich dyddiad llys nesaf.
Cynrychioli eich hun yn y llys
Os na allwch chi gael unrhyw gymorth i dalu am gyfreithiwr neu fargyfreithiwr, gallwch gynrychioli eich hun yn y llys - sef bod yn ‘ymgyfreithiwr dros eich hun’.
Mae’n syniad da cael cyngor os gallwch chi, felly siaradwch â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf i weld beth allai’ch costau fod a’ch opsiynau ar gyfer eu talu.
Os ydych chi am gynrychioli eich hun, gallwch gael cyngor ar fynd i'r llys heb gymorth cyfreithiwr gan Advicenow.
Talu llai am ffioedd llys
Gallwch weld a allwch chi gael cymorth â'ch ffioedd llys yn GOV.UK.
I wneud cais, llenwch y ffurflen ar-lein yna’i hanfon at y llys sy’n delio â’ch achos. Gallwch ddefnyddio’r ffurflen hefyd i gael ad-daliad am ffioedd llys rydych chi wedi’u talu yn y 3 mis diwethaf.
Wrth i chi lenwi’r ffurflen, mae gwahanol adrannau i chi ar eich incwm a’ch budd-daliadau chi a’ch partner. Does dim angen i chi lenwi manylion eich partner os ydych chi’n gwahanu – ticiwch y bocs yn dweud eich bod yn sengl.
Gallwch ofyn yn eich Canolfan Cyngor ar Bopeth lleol am gymorth gyda’r ffurflen.
Anfonwch y ffurflen pan fyddwch chi’n anfon dogfennau neu geisiadau i’r llys i osgoi oedi.
Gall gwahanu eich rhoi dan straen. Os ydych chi angen siarad â rhywun, cysylltwch â Relate neu os oes gennych chi blant, Gingerbread.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.