Os yw’ch cyn-bartner wedi gadael eich cartref

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os yw’ch cynbartner wedi gadael eich cartref, fel arfer byddwch yn gallu aros os ydych chi:

  • wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil

  • wedi’ch enwi ar y gweithredoedd eiddo neu gytundeb tenantiaeth

Os nad ydych chi’n un o’r rhain neu’n poeni y gallai’ch cynbartner ddod yn ôl i fyw yn y tŷ, dylech wneud cais am ‘orchymyn meddiannaeth’. Bydd hyn yn eich caniatáu i fyw yn y cartref.

Bydd angen i chi hefyd ystyried sut byddwch chi’n gallu fforddio eich taliadau morgais neu rent.

Pwysig

Os yw’ch partner yn gwneud i chi deimlo’n ofidus neu eich bod chi’n teimlo dan fygythiad, dylech ofyn am gymorth.

Peidiwch â cheisio cytuno ar beth i’w wneud am eich cartref heb siarad gyda rhywun yn gyntaf.

Gallwch ffonio Refuge neu Cymorth i Ferched ar 0808 2000 247 ar unrhyw adeg.

Elusen yw’r Men's Advice Line sy’n helpu dynion sy’n dioddef cam-drin domestig. Gallwch ffonio eu llinell gymorth ar 0808 801 0327 rhwng 9am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener.

Os nad ydych chi’n siŵr beth i’w wneud nesaf, cysylltwch â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.

Talu eich rhent neu forgais

Bydd angen i chi dalu eich taliadau morgais neu rent nesaf, hyd yn oed os ydych chi’n bwriadu gadael o hyd - meddyliwch am eich opsiynau yn yr hirdymor.

Cyfrifwch eich cyllideb ar-lein i weld a allwch chi fforddio’r rhent neu’r morgais, a ble gallech chi wneud arbedion.

Mae’n syniad da hefyd holi a ydych chi'n gymwys i gael unrhyw fudd-daliadau i helpu gyda chostau tai ar ôl i chi wahanu – rydych chi’n fwy tebygol o fod yn gymwys os ydych chi’n bwriadu byw ar eich pen eich hun.

Os ydych chi eisoes yn cael Budd-dal Tai - neu elfen cost tai’r Credyd Cynhwysol - efallai y gallwch chi gael ‘taliadau tai yn ôl disgresiwn’. Taliadau ychwanegol yw’r rhain i helpu gyda chostau tai annisgwyl.

Dylech wneud cais i'ch cyngor lleol am daliadau tai yn ôl disgresiwn. Dangoswch eich slipiau cyflog, cyfriflenni banc a llythyr gan eich landlord iddynt os ydynt yn eich cwrso am rent.

Os ydych chi’n cael Credyd Cynhwysol, bydd angen i chi roi gwybod am unrhyw newid yn eich amgylchiadau - gallai byw ar eich pen eich hun effeithio ar eich taliadau rheolaidd. Dywedwch wrth eich cyngor lleol am y newid os ydych chi’n cael Budd-dal Tai.

Mae faint y byddwch chi’n ei gael ac am ba hyd yn dibynnu ar eich amgylchiadau a’r cyngor lleol. Er enghraifft, os ydych chi wedi’ch rhwymo mewn cytundeb tenantiaeth cyfnod penodedig, efallai y byddwch chi’n cael cymorth tan i’r denantiaeth ddod i ben.

Cael gorchymyn meddiannaeth

Gallwch wneud cais am ddim heb yr angen i gael cyfreithiwr fel arfer.

Does dim rhaid i chi fod yn byw yn y cartref wrth i chi wneud cais. Os ydych chi’n aros yn rhywle arall dros dro - fel tŷ ffrind - gallwch wneud cais o’r fan honno.

Os yw’ch cyn-bartner yn dod yn ôl pan na fyddwch chi yno, bydd yn cael ei orfodi i symud allan os yw’r llys yn rhoi’r gorchymyn i chi.

Mae am ba hyd y bydd gorchymyn meddiannaeth yn para yn dibynnu ar yr amgylchiadau a phwy sydd wedi’u henwi ar gytundeb tenantiaeth neu forgais - y llys fydd yn penderfynu ar hyd y gorchymyn.

Gwneud cais am orchymyn meddiannaeth

Bydd angen i chi fynd i’r llys i gael y gorchymyn. Gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Tystion os ydych chi’n poeni am hyn – gallant roi cyngor neu gymorth i chi cyn y gwrandawiad.

Y peth cyntaf fydd angen i chi ei wneud yw llenwi'r ffurflen gais ar GOV.UK.

Cysylltwch â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf os nad ydych chi’n teimlo’n hyderus i wneud cais ar eich pen eich hun – gall cynghorydd eich helpu gyda’r broses a dod o hyd i gyfreithiwr lleol os oes angen un arnoch chi.

Mae’r ffurflen yn gofyn i chi am:

  • eich enw a’ch manylion cyswllt

  • enw a manylion cyswllt eich cyn-bartner, os ydynt gennych chi

  • manylion eich morgais, os oes gennych chi un

  • rhesymau am wneud cais

Bydd angen i chi ysgrifennu ‘datganiad tyst’ hefyd a’i gynnwys gyda’r ffurflen. Mae hwn yn gyfle i chi egluro pam eich bod angen gorchymyn meddiannaeth - er enghraifft, oherwydd na allwch chi symud i unrhyw le arall ar hyn o bryd.

Ysgrifennwch ‘Credaf fod y ffeithiau a nodir yn y datganiad hwn yn wir’ ar waelod y dudalen, ac yna llofnodwch a rhoi’r dyddiad ar y datganiad.

Anfonwch 3 chopi o’ch cais i’ch llys meddiannaeth tai agosaf. Byddant yn trefnu bod copi yn cael ei anfon at eich cyn-bartner ac yn gofyn iddynt ysgrifennu eu datganiad tyst eu hunain, a bydd un copi yn cael ei anfon yn ôl er mwyn i chi ei gadw.

Os nad ydych chi am i’ch cyn-bartner wybod ble rydych chi’n aros, gallwch adael y cyfeiriad yn wag ar y ffurflen. Yn hytrach, ysgrifennwch eich cyfeiriad ar y ffurflen hon a’i chynnwys gyda’ch cais.

Bydd y llys yn cysylltu â chi gyda dyddiad ar gyfer y gwrandawiad llys. Os ydych chi’n poeni am fod yn y llys gyda’ch cyn-bartner, gallwch ofyn i’r gwrandawiad gael ei gynnal mewn ystafelloedd ar wahân.

Cyflymu’r broses

Os ydych chi am atal eich cyn-bartner rhag dod yn ôl wrth i chi aros am orchymyn meddiannaeth, gofynnwch i’r llys ‘wrando ar eich cais heb roi rhybudd i’r ymatebydd’. Bocs ticio yn adran 3 y ffurflen yw hwn ac weithiau fe’i gelwir yn ‘orchymyn brys’.

Bydd angen i chi egluro yn eich datganiad tyst bod eich cyn-bartner yn debygol o:

  • osgoi gorchymyn meddiannaeth yn fwriadol

  • eich anafu chi neu’ch plant yn gorfforol

  • eich atal rhag gwneud cais os ydych chi’n aros ymhellach

Mynd i’r gwrandawiad

Fel arfer, bydd eich gwrandawiad yn cael ei gynnal yn eich llys meddiannaeth tai agosaf. Yn y rhan fwyaf o achosion, yr unig bobl yno ar wahân i staff y llys fyddwch chi, eich cyn-bartner a’ch cyfreithwyr.

Ar ddiwedd y gwrandawiad, bydd y llys naill ai’n penderfynu:

  • bod yn rhaid i’ch cyn-bartner addo gwneud neu beidio gwneud rhywbeth - er enghraifft gadael i chi aros yn y cartref

  • eu bod angen rhagor o wybodaeth – efallai y byddwch chi’n cael gorchymyn tymor byr i’ch amddiffyn tan i chi ddarparu’r wybodaeth hon

  • rhoi gorchymyn meddiannaeth

Byddwch yn cael copi o unrhyw orchymyn y bydd y llys yn ei roi drwy’r post – bydd yn dweud beth all eich cyn-bartner ei wneud a beth na all ei wneud.

Mae’n rhaid cyflwyno’r gorchymyn meddiannaeth i’ch cyn-bartner i’w wneud yn swyddogol – mae hyn yn golygu bod angen iddynt gael copi o’r gorchymyn yn bersonol. Bydd eich cyfreithiwr yn gwneud hyn os ydych chi’n defnyddio un.

Os nad ydych chi’n defnyddio cyfreithiwr, gofynnwch i’r llys gyflwyno’r gorchymyn ar eich rhan.

Unwaith y bydd gan eich cyn-bartner ei gopi, gellir gorfodi’r rheolau y mae’n rhaid iddo neu iddi eu dilyn oherwydd y gorchymyn. Os ydych chi’n meddwl bod eich cyn-bartner yn gwneud unrhyw beth sy’n mynd yn groes i’r gorchymyn, ffoniwch yr heddlu.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.