Talu am garthffosiaeth
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae'r dudalen hon yn esbonio sut fyddwch chi'n talu am wasanaethau carthffosiaeth cyhoeddus.
Beth yw ffioedd carthffosiaeth?
Os ydych yn talu am garthffosiaeth gyhoeddus, fel arfer mae'r ffioedd wedi eu cynnwys ar eich bil dwr.
Mae'r ffioedd carthffosiaeth ar gyfer:
mynd â gwastraff dwr o'ch adeilad
mynd â dwr wyneb sy'n draenio at garthffos y cwmni carthffosiaeth
draenio priffyrdd.
Mae pob cwmni'n gosod ei ffioedd ei hun ac maen nhw'n cael eu cyhoeddi'n flynyddol mewn cynllun ffioedd a gymeradwyir gan reoleiddiwr y diwydiant dwr, OFWAT. Mae manylion y r cynllun ffioedd ar gael gan eich cwmni dwr.
Os yw'ch ffioedd carthffosiaeth wedi eu cynnwys yn eich bil dwr ac mae gennych fesurydd dwr, cymerir bod 95% o'r dwr a ddefnyddir yn mynd yn ôl i lawr i'r garthffos. Os ydych yn medru profi eich bod yn defnyddio llawer o ddwr yn eich gardd ac nad yw'n mynd yn ôl i'r garthffos, efallai y cewch ostyngiad ar eich ffi carthffosiaeth.
Pryd fyddwch chi'n talu'ch bil carthffosiaeth?
Yn aml, cewch eich dwr a'ch carthffosiaeth gan yr un cwmni a dim ond un bil fyddwch chi'n ei gael. Os ydych yn cael eich dwr a'ch carthffosiaeth gan gwmnïau gwahanol, efallai y cewch ddau fil. Ond, mae llawer o gwmnïau dwr yn casglu ffioedd carthffosiaeth ar ran y cwmni carthffosiaeth. Yn yr achos hwn, un bil fyddwch chi'n ei gael.
Fel arfer, codir tâl arnoch am y carthffosiaeth fel rhan o'ch bil dwr, unwaith neu ddwywaith y flwyddyn. Os nad oes mesurydd dwr gennych, fe fydd y bil ar gyfer y cyfnod bilio nesaf. Os oes mesurydd dwr gennych, fe fydd y bil ar gyfer y cyfnod bilio blaenorol.
Beth os nad ydych yn defnyddio'r system carthffosiaeth gyhoeddus?
Nid yw pob un yn defnyddio'r system carthffosiaeth gyhoeddus. Mae gan rai garthffosydd preifat neu maen nhw'n defnyddio carthbyllau neu fathau eraill o garthffosiaeth. Os nad ydych yn defnyddio carthffosiaeth gyhoeddus, ni fyddwch yn gorfod talu'r cwmni dwr amdani.
I ddarllen mwy am garthffosydd preifat, gweler Pwy sy'n gyfrifol am drwsio cwteri a charthffosydd
I ddarllen mwy am garthbyllau a mathau eraill o garthffosiaeth, gweler Cynnal a chadw carthbyllau, tanciau septig a safleoedd trin
Cwyno m eich ffioedd carthffosiaeth
Os ydych yn cael trafferth gyda'ch ffioedd carthffosiaeth, gweler Cwyno am eich bil neu wasanaeth dwr
Help gyda'ch ffioedd carthffosiaeth
Efallai y byddwch yn medru cael help gyda'ch ffioedd dwr a charthffosiaeth.
Camau nesaf
Gwybodaeth ddefnyddiol arall
Mae yna wybodaeth ddefnyddiol ar ddwr a charthffosiaeth ar wefan rheoleiddiwr y diwydiant dwr, OFWAT ar: www.ofwat.gov.uk
I ddarganfod pa gwmni dwr sy'n cyflenwi dwr yn eich ardal chi, rhowch glic ar wefan y Cyngor Defnyddwyr Dwr ar: www.ccwater.org.uk
I gael help pellach ar faterion yn ymwneud â dwr, ewch at wefan y Cyngor Defnyddwyr Dwr ar: www.ccwater.org.uk
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 20 Chwefror 2020