Talu'ch biliau dŵr os ydych yn denant
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os ydych yn denant, efallai y bydd gennych fil dwr yn eich enw chi, neu efallai y byddwch yn talu am ddwr fel rhan o'ch rhent. Mae'n arbennig o gyffredin i denantiaid yr awdurdod lleol dalu am ddwr fel rhan o'u rhent. Os nad ydych yn siwr a ydych chi'n talu am ddwr fel rhan o'ch rhent, darllenwch eich cytundeb tenantiaeth.
Darllenwch y dudalen hon i ddarganfod mwy am y math o faterion a allai godi wrth i chi dalu am eich dwr os ydych yn denant.
Yr hyn sydd angen i chi ei wybod
Mae yna rai mathau o denantiaethau, a elwir yn denantiaethau byrddaliad sicr, ble mae'n hawdd iawn i'r landlord eich troi chi allan. Os ydych yn ceisio cymryd camau yn erbyn eich landlord, er enghraifft dwyn achos llys neu siarad â’r Swyddog Cysylltiadau Tenantiaeth, efallai y bydd hyn peri i'ch landlord gymryd camau i'ch troi chi allan.
Cyn i chi gymryd unrhyw gamau fel hyn, fwy na thebyg y bydd yn well i chi gael cyngor yn gyntaf.
Mwy am denantiaethau byrddaliad sicr
Os yw'ch rhent yn cynnwys taliadau dwr
Os ydych yn talu'ch landlord neu berchennog safle cartrefi symudol am ddwr, yn lle talu'ch cwmni dwr yn uniongyrchol, mae hyn yn golygu eu bod yn adwerthu'r dwr i chi. Mae yna reolau a dylech sicrhau nad ydynt yn codi gormod arnoch. Ni ddylid codi mwy na'r swm y byddai'r cwmni dwr yn ei godi, a ffi gweinyddol rhesymol ar ei ben.
Codi mwy nag y dylech fod wedi ei dalu
Os ydych yn credu eu bod wedi codi gormod arnoch, cadwch gofnod o'r swm yr ydych wedi ei dalu a faint o ddwr yr ydych wedi ei ddefnyddio. Os oes mesurydd gennych, sicrhewch ei fod yn cofnodi eich defnydd o ddwr yn gywir, holwch faint mae'ch landlord yn ei godi arnoch am ddwr ac yna cymharwch y ddau swm.
Os ydych yn credu eu bod yn codi gormod arnoch, esboniwch y broblem i'ch landlord a thrafodwch i dalu'r swm cywir.
Os na fydd eich landlord yn rhoi'r swm ychwanegol yn ôl i chi, efallai mai eich unig opsiwn fydd dwyn achos llys yn ei erbyn. Dylech feddwl am hyn fel y cam olaf un.
I gael mwy o wybodaeth ar fynd i'r llys, gweler Ceisiadau bach
Os nad yw'ch landlord yn talu'r bil dwr
Os nad yw'ch landlord yn talu'r bil dwr, nid yw'r cwmni dwr yn cael datgysylltu'r cyflenwad, ond mae'n medru dwyn achos llys yn erbyn y landlord.
Os yw'ch landlord yn datgysylltu'ch cyflenwad, cysylltwch ag Adran Iechyd yr Amgylchedd eich awdurdod lleol neu’r Swyddog Cysylltiadau Tenantiaid, os oes un yn bodoli, a gofynnwch iddynt ailgysylltu’ch cyflenwad.
Gallwch hefyd geisio i'r llys am orfodeb i gael y cyflenwad wedi'i ailgysylltu, a hawlio iawndal am unrhyw gostau sydd wedi codi oherwydd y datgysylltiad. Dylech gael cyngor cyfreithiol cyn gwneud hyn.
Os yw'ch landlord yn datgysylltu eich cyflenwad dwr i geisio gwneud i chi adael yr eiddo, mae hyn yn fath o aflonyddu ac yn drosedd. Os yw hyn yn digwydd, dylech gysylltu â Cyngor ar Bopeth neu gael cyngor cyfreithiol.
Biliau dwr wedi eu hôl-ddyddio
Os ydych yn cael bil dwr wedi ei ôl-ddyddio, edrychwch i weld i ba ddyddiadau y mae'n berthnasol. Os yw'r dyddiadau'n cyfeirio at denantiaeth flaenorol neu adeg pan nad oeddech yn byw yn yr eiddo, dylech anfon y bil at eich landlord. Dylech hefyd holi i weld pwy sy'n gyfrifol am dalu'r taliadau dwr i'r cwmni dwr. Os yw'r taliadau dwr wedi eu cynnwys yn eich rhent, eich landlord fydd hwn felly anfonwch y bil ato.
Camau nesaf
Gwybodaeth ddefnyddiol arall
Mae OFWAT, yr Awdurdod sy'n Rheoleiddio Gwasanaethau Dwr, wedi cynhyrchu canllawiau ynghylch dwr a adwerthir. I ddarllen y canllawiau, rhowch glic ar: A guide to water resale – information for household customers.
I ddarganfod pa gwmni dwr sy'n cyflenwi dwr yn eich ardal chi, rhowch glic ar wefan y Cyngor Defnyddwyr Dwr ar: www.ccwater.org.uk.
I gael help pellach ar faterion yn ymwneud â dwr, ewch at wefan y Cyngor Defnyddwyr Dwr ar: www.ccwater.org.uk.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 20 Chwefror 2020