Pryd na fydd angen yswiriant ar gyfer eich cerbyd
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Yn ôl y gyfraith, rhaid bod gennych yswiriant moduro trydydd person os ydych yn berchen ar gerbyd neu yn ei yrru. Rhaid hefyd fod gennych yswiriant os ydych yn ei adael wedi ei barcio ar y stryd, ar eich dreif neu yn eich garej.
Mae'r heddlu'n medru gofyn i chi ddangos eich tystysgrif yswiriant iddynt. Os nad ydych yn medru gwneud hynny, rhaid i chi fynd â hi i orsaf yr heddlu o fewn saith niwrnod. Os na fyddwch yn gwneud hynny, fe fyddan nhw'n medru mynd â'ch cerbyd a'i werthu. Er, fe fyddwch yn medru hawlio'r arian a gafwyd o'i werthu yn ôl.
Fodd bynnag, mae yna sefyllfaoedd pan mae'n gyfreithlon i'ch cerbyd fod heb yswiriant. Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych am sefyllfaoedd ble nad oes rhaid i chi fod ag yswiriant moduro.
Nid fydd angen yswiriant moduro arnoch yn yr achosion canlynol:
mae gennych Hysbysiad Oddi-ar-y-ffordd Statudol (HOS) dilys
mae eich cerbyd wedi cael ei gadw oddi ar ffordd gyhoeddus ers cyn 1 Chwefror 1998
mae eich cerbyd wedi cael ei sgrapio, ei ddwyn neu ei allforio ac rydych chi wedi rhoi hysbysiad ynglŷn â hyn
mae eich cerbyd rhwng delwyr neu'n cael ei ddal mewn stoc gan ddeliwr awdurdodedig.
Os yw'n ymddangos nad oes yswiriant ar eich cerbyd, cewch lythyr gan Motor Insurers Bureau yn eich rhybuddio i yswirio'ch cerbyd neu i sicrhau bod eich cwmni yswiriant wedi rhoi'r manylion cywir ar eu cronfa ddata. Os oes yswiriant gennych dylech gysylltu â'ch cwmni yswiriant ar unwaith.
Os nad ydych yn yswirio'ch cerbyd, cewch Hysbysiad Cosb Benodedig ac os nad ydych yn ei yswirio o hyd, gallent fynd â'r cerbyd oddi arnoch, ei glampio neu ei ddinistrio neu gellir mynd â chi yn ôl i'r llys.
Gwybodaeth ddefnyddiol arall
Cronfa ddata Motor Insurers' Bureau www.askmid.com.
Mwy am yr hyn sy'n digwydd os nad ydych yn yswirio'ch cerbyd ar: www.stayinsured.askmid.com.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 16 Rhagfyr 2020