Trafferth cael yswiriant
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae i fyny i gwmnïau yswiriant benderfynu a ydyn nhw am gynnig yswiriant i chi. Weithiau, efallai bod rheswm pam mae cwmni yswiriant yn gwrthod cynnig polisi i chi, neu'n ceisio codi mwy arnoch nag y byddai'n ei godi ar bobl eraill. Mae'r dudalen hon yn esbonio'r rhesymau posib dros hyn a'r hyn fedrwch chi ei wneud os ydych yn cael trafferth cael yswiriant.
Pam allech chi gael trafferth cael yswiriant
Cwmnïau yswiriant sy'n penderfynu ar yr amodau a thelerau ar gyfer cynnig polisïau yswiriant neu a ddylai gynnig polisi o gwbl. Efallai y cewch drafferth cael yswiriant os oes hanes meddygol cymhleth gennych, os ydych yn oedrannus neu os oes euogfarnau troseddol yn eich erbyn. Efallai y cewch drafferth cael yswiriant adeiladau ar gyfer difrod gan lifogydd hefyd, os yw'ch eiddo wedi dioddef difrod yn y gorffennol neu os oes hanes o lifogydd yn eich cymdogaeth.
Efallai y bydd cwmni yswiriant eisiau mwy o wybodaeth amdanoch cyn penderfynu a fydd yn rhoi polisi i chi ac efallai na fydd rhai cwmnïau yswiriant yn eich yswirio chi o gwbl, am eu bod yn credu eich bod chi'n ormod o risg.
Efallai bod anghenion arbenigol gennych Er enghraifft, efallai y byddwch yn cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgaredd arbennig o beryglus ac yn gweld na fydd polisïau yswiriant cyffredinol yn darparu ar eich cyfer o gwbl.
Efallai eu bod nhw wedi gwahaniaethu yn eich erbyn. Ond, mae cwmnïau yswiriant yn cael gwahaniaethu yn eich erbyn mewn rhai amgylchiadau. Er enghraifft, efallai y bydd cwmnïau yswiriant gwyliau yn codi mwy arnoch os ydych yn hyn, tra bod cwmnïau yswiriant modur efallai'n codi mwy arnoch os ydych yn ifancach.
Beth fedrwch chi ei wneud os ydych yn cael trafferth dod o hyd i yswiriant
Os ydych yn cael trafferth dod o hyd i yswiriant, ceisiwch ddefnyddio brocer yswiriant a ddylai fod yn medru dod o hyd i gwmni yswiriant a fydd yn fodlon rhoi polisi i chi. Mae cymdeithas o'r enw British Insurance Brokers Association yn rhedeg gwasanaeth i ddod o hyd i frocer sy'n medru dod a chi i gysylltiad â chwmnïau yswiriant arbenigol.
Gallech hefyd gysylltu ag elusen neu fudiad sy'n helpu pobl sydd â'ch anghenion penodol chi oherwydd efallai bod ganddynt restr o gwmnïau yswiriant a fydd yn darparu polisïau, neu froceriaid sy'n medru eich helpu i ddod o hyd i yswiriant.
Yswiriant ar gyfer llifogydd mewn ardaloedd o risg uchel
Gallwch gysylltu â BIBA neu'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol sy'n rhoi cyngor annibynnol ar sut i fynd ati i gael yswiriant ar gyfer llifogydd mewn ardaloedd o risg uchel.
Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) wedi cyhoeddi canllawiau o'r enw 'Obtaining flood insurance in high risk areas' ac maen nhw'n darparu gwybodaeth a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i bolisi addas.
Maen nhw'n esbonio sut i gael help arbenigol a pha wybodaeth y gellir gofyn i chi ei darparu, a cheir cyngor ar sut i ostwng effaith llifogydd a manylion cyswllt mudiadau allweddol.
Yswiriant a Gwahaniaethu
Mae cwmnïau yswiriant yn cael gwrthod rhoi polisi i chi am rai rhesymau. Er enghraifft, maen nhw'n medru gwrthod rhoi polisi i chi oherwydd eich oed neu am eich bod yn feichiog. Ond, os ydych yn credu y gwrthodwyd polisi i chi am reswm arall, efallai bod hyn yn wahaniaethu.
Gwybodaeth ddefnyddiol arall
Chwiliwch am frocer yswiriant ar www.biba.org.uk.
Chwiliwch am wybodaeth ar yswiriant i bobl dros 50 gydag Age UK ar www.ageuk.org uk.
Cysylltwch â'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol yn www.floodforum.org.uk neu dros y ffôn ar 01299 403055.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 20 Chwefror 2020