Sut i hawlio ar eich polisi yswiriant
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os ydych chi wedi trefnu yswiriant, a bod rhywbeth yn digwydd, gallai fod angen i chi wneud hawliad.
Mae’r dudalen hon yn dweud wrthych chi beth fydd angen i chi feddwl amdano cyn cysylltu â’ch yswiriwr a hefyd beth i’w wneud os oes rhywun yn ceisio hawlio yn eich erbyn chi.
Gwneud hawliad
Os oes angen i chi hawlio cysylltwch â’ch yswiriwr cyn gynted â phosibl a gofyn iddo anfon ffurflen hawlio atoch. Mae’n bosibl y gall ebostio hon atoch chi a fydd yn cyflymu’r broses. Cwblhewch y ffurflen hawlio’n ofalus gan gadw copi i chi eich hun.
Gwiriwch y pethau canlynol cyn anfon y ffurflen hawlio:
eich bod o fewn y terfyn amser ar gyfer gwneud hawliad
bod yr hyn rydych chi’n ei hawlio o fewn eich yswiriant
faint yw’r tâl-dros-ben. Y tâl-dros-ben yw’r arian y bydd eich yswiriwr yn ei dynnu oddi ar yr hawliad. Efallai na fydd yn werth gwneud hawliad os yw’r swm rydych chi’n ei hawlio yn llai na hyn
y print mân. Gwnewch yn siŵr nad oes dim yn y telerau ac amodau sy’n eich atal rhag hawlio
a yw’n bolisi newydd am hen. Os nad yw, bydd y swm a gewch chi am yr eitemau rydych chi’n hawlio ar eu cyfer yn llai na chost eu hamnewid. Mae hyn oherwydd bod yr yswiriwr yn tynnu arian ar gyfer traul.
Bydd angen i chi gynnwys copïau o’r holl waith papur a fydd yn helpu eich hawliad, gan gynnwys derbynebau neu dystysgrifau meddygol. Hefyd dylech gadw copïau o’r tystysgrifau gwreiddiol rhag ofn i’ch hawliad gael ei gwestiynu neu ei wrthod.
Mae’n bosibl y bydd eich yswiriwr yn gofyn a oes gennych chi unrhyw yswiriant arall a allai gwmpasu’r hawliad. Bydd angen i chi ei hysbysu os oes gennych chi yswiriant arall a allai ei gwmpasu, er enghraifft yswiriant cynnwys y tŷ.
Mae’n bwysig peidio â gorliwio eich hawliad oherwydd gallai hynny arwain at wrthod yr hawliad cyfan.
Os ydych chi’n gwneud hawliad mawr efallai y byddwch am ddefnyddio asesydd colledion a all eich helpu i baratoi’r hawliad a threfnu i brisio eitemau. I ddod o hyd i asesydd colledion gallwch gysylltu â’r Sefydliad Aseswyr Colledion Cyhoeddus.
Oes rhaid i chi hawlio ar eich yswiriant?
Does dim rhaid i chi hawlio ar eich polisi yswiriant, hyd yn oed os oes gennych chi hawl i wneud hynny. Mewn rhai achosion, os yw’r swm yn eithaf bach, mae’n bosibl na fyddwch am hawlio oherwydd os gwnewch chi hynny gallai eich taliadau premiwm godi mwy na’r swm rydych chi wedi’i hawlio.
Fodd bynnag mae’n syniad da hawlio yswiriant os oes rhywun wedi’i anafu. Gall anafiadau personol fod yn ddrud, a gallan nhw adael problemau iechyd tymor hir.
Hyd yn oed os nad ydych chi am hawlio ar eich polisi yswiriant, rhaid i chi ddweud wrth eich yswiriwr am unrhyw ddigwyddiad. Os nad ydych chi’n ei hysbysu, gallai beri problemau’n ddiweddarach os byddwch chi am hawlio.
Mae rhywun yn gwneud hawliad yn eich erbyn chi
Os ydych chi’n canfod bod rhywun yn gwneud hawliad yn eich erbyn chi dylech ddweud wrth eich yswiriwr cyn gynted â phosibl ac anfon unrhyw waith papur rydych ch’n ei dderbyn ato. Ni ddylech gyfaddef mai eich bai chi yw unrhyw beth heb siarad â’ch yswiriwr yn gyntaf. Cyfaddef atebolrwydd yw’r term am hyn.
Y camau nesaf
Gwybodaeth ddefnyddiol arall
Gallwch ddod o hyd i asesydd colledion yma: www.lossassessors.org.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 20 Chwefror 2020