Eich meddyginiaeth ac unrhyw driniaeth arall
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) eisiau gwybod am eich meddyginiaeth chi ac unrhyw driniaeth rydych chi’n ei chael - bydd hyn yn eu helpu i gael darlun gwell o’ch sefyllfa chi.
Mae’r cwestiwn yma ar dudalen 7 y ffurflen – dyma sut mae’n edrych
Eich meddyginiaeth
Dylech restru’r tabledi ac unrhyw feddyginiaeth arall rydych chi’n ei chymryd. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cynnwys:
unrhyw beth sydd wedi’i roi i chi ar bresgripsiwn
unrhyw beth rydych chi’n ei brynu eich hun, megis cyffuriau lleddfu poen fel paracetamol
Dylech gynnwys y canlynol hefyd:
y dos (faint rydych chi’n ei gymryd, er enghraifft 350mg) a pha mor aml rydych chi’n ei gymryd (er enghraifft, tair gwaith y dydd)
unrhyw sgil effeithiau rydych chi’n eu cael (er enghraifft, os yw pilsen arbennig yn gwneud i chi deimlo’n sâl) - a beth rydych chi’n ei wneud amdanyn nhw
unrhyw dabledi neu feddyginiaeth arall nad ydych chi’n ei chymryd eto, ond y byddwch chi’n ei chymryd yn y dyfodol
unrhyw beth rydych wedi rhoi’r gorau i’w gymryd oherwydd nad oedd e’n gweithio neu ei fod yn eich gwneud chi’n waeth (gwnewch yn siŵr eich bod chi’n esbonio hyn ar y ffurflen)
Gallwch gael rhestr o’ch holl bresgripsiynau cyfredol gan eich meddyg neu’ch fferyllydd os oes angen.
Triniaeth rydych chi’n ei chael
Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cynnwys:
y driniaeth rydych chi’n ei chael, er enghraifft dialysis - yn cynnwys triniaeth ysbyty a chlinig
lle rydych chi’n mynd i’w chael, er enghraifft enw’r ysbyty
pa mor aml rydych chi’n mynd, er enghraifft bob wythnos
os ydych chi’n cael triniaeth fel claf mewnol, pa mor aml fyddwch chi’n aros yno
Dylech chi gynnwys y canlynol hefyd:
unrhyw archwiliadau rheolaidd rydych chi’n eu cael, a pham rydych chi’n eu cael nhw - er enghraifft i adolygu eich meddyginiaeth a newid y dos o bosib
unrhyw lawdriniaeth rydych chi wedi’i chael ar gyfer y cyflyrau sy’n achosi anhawster i chi
unrhyw bigiadau rydych chi eu hangen
unrhyw therapi rydych chi’n ei gael, er enghraifft therapi ymddygiadol gwybyddol (CBT) neu aciwbigo
sut rydych chi wedi ymateb i’r driniaeth, dyddiad unrhyw driniaeth neu ymchwiliad yn y dyfodol - er enghraifft, os na wnaethoch chi ymateb yn dda i lawdriniaeth ar asgwrn eich cefn, felly rydych chi’n disgwyl cael sgan yn y pythefnos nesaf
Hyd yn oed os nad ydych chi’n siŵr a yw’r driniaeth rydych chi wedi’i chael yn berthnasol, dylech chi ei chynnwys ar y ffurflen. Mae’n well rhoi gwybodaeth ychwanegol na methu rhywbeth pwysig.
Aros dros nos ac adsefydlu preswyl
Mae’r rhain yn gwestiynau syml - ticiwch y bocsys:
os ydych chi’n cael triniaeth neu’n aros am unrhyw driniaeth lle byddwch chi’n aros yn rhywle dros nos neu am fwy o amser
os ydych chi mewn cynllun adsefydlu preswyl neu i fod i ddechrau un
Camau nesaf
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.