Cael eich penderfyniad ESA ar ôl yr asesiad
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Ar ôl eich asesiad, bydd rhywun o’r Adran Gwaith a Phensiynau yn edrych ar yr argymhelliad a wnaed gan yr aseswr a’i ddefnyddio i benderfynu a allwch chi gael y ESA.
Gall gymryd nifer o wythnosau neu fisoedd i'r Adran Gwaith a Phensiynau wneud penderfyniad. Os na fyddwch chi wedi clywed unrhyw beth ar ôl 8 wythnos, gallech gysylltu â nhw i ofyn pam nad ydych chi wedi cael llythyr penderfyniad eto.
Os ydych chi’n mynd i gael yr ESA, byddwch yn cael eich rhoi yn un o’r 2 grŵp hyn:
y grŵp gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith – mae hyn yn golygu, i barhau i dderbyn yr ESA, bydd yn rhaid i chi wneud gweithgareddau cysylltiedig â gwaith fel mynd i gyfarfodydd gyda chynghorwyr gwaith neu sesiynau grŵp i helpu i wella eich cyfleoedd o gael gwaith yn y dyfodol
y grŵp cymorth – mae hyn yn golygu na fyddwch chi’n gorfod gwneud unrhyw weithgareddau syn gysylltiedig â’ch gwaith i barhau i gael eich ESA.
Byddwch chi’n cael y wybodaeth hon pan fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ysgrifennu atoch chi gyda chanlyniad eich hawliad. Y llythyr penderfyniad yw hwn.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y ddau grŵp a beth i'w wneud os ydych chi'n meddwl eich bod wedi'ch rhoi yn y grŵp anghywir.
Cyfraddau’r ESA ar ôl i chi gael eich penderfyniad
Ar ôl i chi gael eich asesu, dylai’ch ESA gynyddu o’r gyfradd asesu i’r gyfradd lawn. Mae gwahanol gyfraddau i’r Lwfans, yn dibynnu ar:
i ba grŵp gawsoch chi’ch rhoi
a ydych chi’n cael Lwfans ESA sy’n gysylltiedig ag incwm ac yn gymwys i dderbyn premiwm ychwanegol
Grwpiau’r Lwfans a’r symiau a delir | Lwfans seiliedig ar gyfraniadau | Lwfans seiliedig arm incwm |
---|---|---|
Grwpiau’r Lwfans a’r symiau a delir
Grŵp cymorth |
Lwfans seiliedig ar gyfraniadau
£110.75 |
Lwfans seiliedig arm incwm
hyd at £110.75 |
Grwpiau’r Lwfans a’r symiau a delir
Grŵp gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith |
Lwfans seiliedig ar gyfraniadau
£73.10 |
Lwfans seiliedig arm incwm
hyd at £73.10 |
Darllenwch fwy am gyfraddau a phremiymau'r ESA.
Am ba hyd y byddwch chi’n cael ESA
Os ydych chi yn y grŵp gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith ac yn cael ESA seiliedig ar gyfraniadau, byddwch ond yn ei gael am hyd at flwyddyn. Pan fyddwch chi bron ar ddiwedd y flwyddyn, byddwch yn cael ffurflen ESA3 i’w llenwi i weld a allwch chi gael eich symud i ESA cysylltiedig ag incwm. Os yw’ch anabledd neu salwch yn gwaethygu ac y byddech chi’n gymwys am y grŵp cymorth, gallwch adhawlio ESA cyfrannol.
Os ydych chi yn y grŵp cymorth neu’n cael ESA cysylltiedig ag incwm, bydd eich hawliad yn un parhaus.
Rhagor o wybodaeth am grwpiau ESA.
Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau'n ailasesu eich gallu i weithio bob 1, 2 neu 3 blynedd i sicrhau nad ydych chi’n ffit i weithio o hyd.
Os ydych chi yn y grŵp cymorth, mae'n bosibl bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau'n penderfynu na fydd angen eich ailasesu yn y dyfodol - byddant yn dweud hyn yn y llythyr penderfyniad gewch chi. Dim ond os yw'ch cyflwr yn annhebygol o wella rhyw lawer yn y dyfodol y byddant yn gwneud hyn, ac mae'n golygu y byddwch chi bob amser yn y grŵp cymorth.
Os ydych chi’n anghytuno â phenderfyniad yr Adran Gwaith a Phensiynau
Os ydych chi’n anghytuno â’r penderfyniad yn eich llythyr, gallwch ofyn am ailystyried y penderfyniad. Gelwir hyn yn ‘ailystyried gorfodol’. Mae angen i chi ofyn am hyn o fewn mis i gael eich llythyr penderfyniad. Os ydych chi’n methu’r dyddiad cau, gallwch wneud cais hwyr, ond mae’n rhaid i chi ddangos bod gennych chi reswm da dros fod yn hwyr.
Gallwn eich helpu i ddeall beth yw ailystyriaeth orfodol a sut i ofyn am un.
Camau nesaf
Apelio yn erbyn y penderfyniad
Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau
Beth i’w wneud os ydych chi’n cael eich cosbi
Mwy am y grŵp cymorth a’r grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 01 Mai 2020